Menter gan yr heddlu yn rhoi cymorth ychwanegol i ddioddefwyr trais domestig
Ers cychwyn y fenter beilot ar 1 Mehefin, mae swyddogion wedi gwneud dros 50 o ymweliadau â dioddefwyr a ddiogelir gan y gorchmynion hyn, gan arwain at nifer o ddioddefwyr yn meithrin yr hyder i baratoi datganiadau mewn perthynas â'u hachosion a thri arestiad am doriadau gan droseddwyr.