Sut i riportio cerbyd sydd ar goll neu wedi’i ddwyn
Os yw eich car wedi mynd ar goll, dilynwch y camau syml isod er mwyn ei dracio neu, yn y sefyllfa waethaf, riportio ei fod wedi’i ddwyn.
Cam 1: Gwiriwch lle gadawsoch chi eich car
Mae’n swnio’n amlwg, ond os yw eich car ar goll ein cyngor cyntaf yw gwirio eto yn y man lle gwnaethoch ei barcio. Yn aml iawn bydd car sydd ar goll, y tybir ei fod wedi’i ddwyn, yn union lle gadawodd y perchennog ef - a’i fod wedi anghofio.
Y dyddiau hyn mae gan lawer o geir dracwyr GPS er mwyn eu lleoli os ydynt ar goll neu wedi’u dwyn. Ow yw hyn yn gywir/yr achos am eich car chi, cysylltwch â’ch gwasanaeth tracio penodol cyn cysylltu â ni – os yw’r car wir fel petai wedi cael ei ddwyn bydd y gwasanaeth fel arfer yn cysylltu â ni ar eich rhan.
Cam 2: Cysylltwch â’ch cyngor lleol
Yr ail reswm mwyaf cyffredin am gerbyd ar goll yw ei fod wedi cael ei symud gan y cyngor am barcio’n anghyfreithlon.
Os ydych yn gwybod y cod post, gallwch ddarganfod pa gyngor sy'n gyfrifol am yr ardal lle cafodd eich car ei barcio.
Cam 3: Riportiwch ef
Cliciwch 'Dechrau' isod i’w riportio.