Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn arall wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 18 oed yng Ngorseinon ym mis Gorffennaf.
Mae Tyler Ford, 18 oed o Dreforys, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Ceiran Evans, o ardal Gorseinon, yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar 9 Gorffennaf.
Cafodd Ford ei gyhuddo o geisio llofruddio dioddefwr arall yn ystod y digwyddiad ar Heol Pen Cae Crwn hefyd.
Heddiw, mae Elliot Truelove, 33 oed o West Cross, Abertawe, a Liam Thomas, 18 oed o Dreforys, Abertawe, hefyd wedi cael eu cyhuddo o lofruddio ac ymgais i lofruddio.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Danielle Thorne, o'r Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr:
"Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth i ddigwyddiad sydd wedi bod yn hynod o drawmatig i deulu Ceiran Evans a'r gymuned ehangach yng Ngorseinon.
"Mae'r cyhuddiadau ychwanegol hyn yn gam sylweddol arall wrth i ni weithio i ddeall yr amgylchiadau ddaru arwain at farwolaeth Ceiran. Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol unwaith eto am gynorthwyo'r ymchwiliad."