Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Mae Mujeeb Rahman Hassani, o Butetown, wedi ei gael yn euog o ddynladdiad Ibrahim Yassin heddiw (dydd Iau, 13 Awst).
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i adroddiad o ymosodiad difrifol yn Rhodfa Belmont ychydig wedi 9am ddydd Sul 18 Chwefror.
Ymosodwyd ar Mr Yassin, 64 oed, yn ei gartref yn Rhodfa Belmont ac roedd wedi dioddef anafiadau trywanu.
Aeth swyddogion i'r lleoliad a chafodd Hassani, 40 oed, ei ddal gerllaw ar Stryd James.
Fe gafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth, ond yn ystod yr achos llys yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd y rheithgor gyfarwyddyd ffurfiol i ddyfarnu Hassani yn ddieuog.
Clywodd y llys fod gan y diffynnydd gyfrifoldeb lleiedig adeg y digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Claire Lamerton, o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Roedd Mr Ibrahim Yassin yn dad ymroddedig i’w 11 o blant ac yn cael ei barchu’n fawr yng nghymuned Butetown.
“Wrth reswm, mae ei farwolaeth wedi achosi galar a thrallod aruthrol i'w deulu ac i gymuned glos Butetown.
“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau, fel y maent wedi bod ers ei farwolaeth drasig, ac rwy’n estyn fy nghydymdeimlad diffuant iddynt.”
Bydd Hassani yn aros yn Ysbyty Ashworth nes ei ddedfrydu ar 16 Hydref.