Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sylwch: Os gwnaethoch chi gyflwyno adroddiad digwyddiad traffig ffyrdd ar y wefan hon, byddwch yn gallu lawrlwytho copi o'ch adroddiad. Adroddiad gwrthdrawiad yw'r adroddiad hwnnw. Yna gallwch anfon yr adroddiad at eich cwmni yswiriant neu’ch cyfreithiwr. Fydd dim angen ichi wneud cais ar wahân am adroddiad gwrthdrawiad.
Os ydych yn gyfreithiwr neu'n asiant yswiriant, gallwch wneud cais ar ran eich cleient am gopi o unrhyw adroddiadau am wrthdrawiadau sydd wedi'u llunio gan yr heddlu neu’n cael eu cadw gan yr heddlu.
Os ydych yn cynrychioli eich hun mewn achos sifil, gallwch chithau hefyd wneud cais.
Dim ond ar ôl i’r achos gael ei gau y gall adroddiadau gael eu rhyddhau.
Gallwch ofyn hefyd am gyfweliad gyda'r swyddog heddlu a fu’n ymdrin â'r gwrthdrawiad traffig ffyrdd, cyn belled â bod ymchwiliad iddo wedi bod.
Does dim adroddiad yn cael ei lunio ar y canlynol:
Dim ond i'r partïon canlynol y byddwn yn datgelu gwybodaeth:
Yn unol â gofynion Adran 170 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988:
Gall gwybodaeth ychwanegol gynnwys y canlynol:
Llenwch y ffurflen isod a'i hanfon gyda siec i'r cyfeiriad ar y ffurflen.
Os oes gennych ymholiadau, anfonwch neges ebost.
Am ffi o £37.80 nad oes modd ei had-dalu, byddwn yn chwilio System Rheoli Cofnodion Heddlu De Cymru i ganfod unrhyw wybodaeth sydd ar gael ac a all gael ei rhyddhau. Bydd hyn yn talu cost anfon manylion trydydd partïon atoch os canfyddir hwy.
Dywedwn wrthych am gostau adroddiadau manylach a allai fod wedi’u canfod ar ôl i'r chwiliad gael ei wneud.