Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.south-wales.police.uk
Cynhelir y wefan hon gan y platfform Single Online Home (SOH) ac mae’n defnyddio templedi cenedlaethol. Mae’r cynnwys yn gymysgedd o genedlaethol a lleol.
Rheolir y cynnwys cenedlaethol gan dîm SOH, rheolir y cynnwys lleol gan yr heddluoedd unigol. Y tîm SOH sy'n gyfrifol am gydymffurfiaeth hygyrchedd y cynnwys cenedlaethol; heddluoedd unigol sy'n gyfrifol am gydymffurfiaeth hygyrchedd eu cynnwys lleol.
Rydym eisiau i bawb allu defnyddio’r wefan hon. Efallai y cewch well profiad os byddwch yn newid y gosodiadau ar eich cyfrifiadur fel eu bod yn addas ar gyfer eich anghenion. Mae’r wefan wedi’i hadeiladu fel y dylech allu gwneud y canlynol:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch.
Nid yw’n bosibl nodi’r lleoliad wrth adrodd am ddigwyddiad traffig ar y ffordd ar gyfer pobl sy’n defnyddio rhai technolegau cynorthwyol neu’n llywio gyda bysellfwrdd. Rydym yn argymell ffonio 101 os ydych yn cael anawsterau gyda’r broses ar-lein.
Ar dudalennau canlyniadau chwilio efallai na fydd diben rhai o’r dolenni yn glir i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin.
Nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i ddarllenwyr sgrin. Fodd bynnag, gall defnyddwyr ofyn am fersiynau hygyrch. Nid yw’r dogfennau PDF y gellir dewis eu lawrlwytho sy’n cael eu creu ar ôl i ddefnyddwyr lenwi unrhyw rai o’n ffurflenni chwaith yn gwbl hygyrch i ddarllenwyr sgrin.
Rydym wedi ceisio gwneud unrhyw ffurflenni Microsoft Word a ddefnyddiwn mor hygyrch â phosibl, ond yn aml mae problemau gyda sut mae rhai technolegau cynorthwyol yn rhyngweithio â nhw. Os ydych chi’n cael anawsterau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein ffurflen gysylltu hygyrchedd.
Nid yw rhywfaint o’r deunydd sydd ar ein gwefan ar gael oni bai bod JavaScript wedi’i alluogi, er enghraifft ffurflenni, dod o hyd i orsaf heddlu a mapiau.
Ar dudalennau sydd â dewisiadau briwsion bara mae'r ddolen Neidio i'r Prif Gynnwys yn mynd â chi i'r dewis hwn, yn hytrach na dechrau'r prif gynnwys sy'n dilyn yn syth ar ôl y briwsion bara.
Mae rhai ffurflenni ar y wefan yn cynnwys penawdau ailadroddus gyda'r un cynnwys testun, a allai achosi dryswch i bobl sy'n llywio gan ddefnyddio technolegau cynorthwyol.
Mae rhai problemau a all ei gwneud hi’n anodd defnyddio prif gynnwys llywio ar ddangoswyr bwrdd gwaith gyda lefelau chwyddo o 200% neu fwy. Mae hon yn broblem yn arbennig os nad ydych wedi derbyn na gwrthod cwcis a bod y faner Cwcis yn dal i ymddangos ar frig y dudalen.
Os na allwch gyrchu rhywbeth sydd ei angen arnoch ar y wefan hon, dywedwch wrthym a byddwn yn gwneud yn siŵr y cewch yr hyn sydd ei angen arnoch mewn ffordd arall.
Er mwyn ein helpu i ddeall y broblem mor gyflym ag y gallwn, rhowch wybod i ni:
Ar-lein gan ddefnyddio ein ffurflen gyswllt hygyrchedd.
Ebost: [email protected]
Sylwer: mae’r blwch post hwn ar gyfer ymholiadau hygyrchedd yn unig. Os ydych am riportio troseddau neu ddigwyddiadau eraill, defnyddiwch ein gwasanaethau riportio trosedd ar-lein. Os oes trosedd yn cael ei chyflawni ar hyn o bryd neu os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun at 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.Os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â rhywbeth arall, a’ch bod angen ymateb, defnyddiwch ein tudalen cysylltu.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd yr elfennau nad sy’n cydymffurfio a restrir isod.
Rhagor o wybodaeth am y safonau hygyrchedd technegol rydym yn eu dilyn.
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Efallai na fydd dogfennau PDF yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Rydym wrthi’n disodli neu’n trwsio unrhyw ddogfennau PDF a Word sy’n hanfodol ar gyfer ein gwasanaethau, fodd bynnag gall defnyddwyr ofyn am fersiynau hygyrch.
Gydag ambell eithriad, bydd pob dogfen PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd. Bydd pob dogfen newydd sydd ddim yn hygyrch yn cael ei nodi’n glir, a byddwn yn darparu fersiwn hygyrch pan fo hynny’n bosibl.
Ar ôl i ddefnyddwyr lenwi rhai o’n ffurflenni rhoddir y dewis iddynt lawrlwytho copi o’u data mewn fformat PDF. Gwyddom nad yw’r dogfennau PDF hyn yn gwbl hygyrch i ddarllenwyr sgrin ar hyn o bryd. Mae adeiladu dogfennau PDF hygyrch yn rhan o’n cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol ac mae hyn yn cael ei adolygu.
Nid yw nifer o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn gwbl hygyrch, er enghraifft, efallai na fyddant yn hawdd eu darllen gan ddefnyddio darllenydd sgrin.
Bwriadwn ddisodli neu drwsio unrhyw ddogfennau PDF a Word sy’n hanfodol i’n gwasanaethau, fel ffurflenni wedi’u cyhoeddi fel dogfennau Word.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio pob dogfen hŷn sydd ddim yn hanfodol megis dogfennau PDF hen ymgyrchoedd.
Rydym yn profi’n rheolaidd pa mor hygyrch yw’r wefan hon gan ddefnyddio:
Rydym hefyd yn monitro a phrofi’n barhaus hygyrchedd ein gwefan gan ddefnyddio’r platfform Siteimprove.ai platform ac wedi gwneud trwsio a gwella hygyrchedd y wefan yn rhan o’n gwaith bob dydd.
Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Medi 2019. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 7 Mai 2026.
Cynhaliwyd archwiliad allanol llawn ar y wefan hon ym mis Mai 2019, a chynhaliwyd archwiliadau Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth mwy cyfyngedig ym mis Hydref 2022 a mis Mai 2026.
Gwnaethom brofi’r gwasanaeth yn seiliedig ar allu defnyddiwr i gwblhau siwrneiau allweddol. Profwyd pob rhan o’r siwrneiau a ddewiswyd, yn cynnwys dogfennau. Dewiswyd siwrneiau ar nifer o ffactorau yn cynnwys ystadegau defnydd, asesiadau risg a phynciau.