Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Carcharwyd Matthew Moore yn dilyn ei euogfarn ddiweddar am droseddau dwyn o siopau. Cafodd Orchymyn Ymddygiad Troseddol am dair blynedd yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun 3 Awst.
Cyfaddefodd Moore ei fod wedi dwyn nwyddau cartref gwerth £22.40 o One Stop ar Broad Street a chafodd ei garcharu am 16 wythnos.
Dywedwyd wrth y llys fod Moore wedi bod yn gweithredu fel rhan o grŵp sy'n targedu siopau gyda'i gilydd.
Yn rhan o'r Gorchymyn, rhaid i Moore beidio â mynd i Holton Road, Broad Street, Home Bargains, Sainsbury’s nac unrhyw Co-op yn y Barri.
Mae hefyd wedi'i wahardd rhag mynd i mewn i unrhyw siopau yn y Barri a Bro Morgannwg gyda phum unigolyn penodol yn bresennol.
Nod Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yw atal troseddu ac amddiffyn y gymuned, gweithwyr lleol, ac aelodau'r cyhoedd rhag gofid a tharfu parhaus a niwed posibl.
Mae Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos gyda manwerthwyr a busnesau i'w hamddiffyn rhag troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyflawnir gan unigolion fel Matthew Moore.
Gall dwyn o siopau gael effaith ddinistriol ar weithwyr siop a manwerthwyr.
Mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â dwyn o siopau a chefnogi'r diwydiant.
Dylid rhoi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau ac achosion o dorri gorchmynion.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng