Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad yn Amroth Road, Caerau, nos Fawrth.
Cafodd Heddlu De Cymru ei alw i adroddiad o wrthdrawiad yn ymwneud â cherddwr ac e-feic ychydig ar ôl 8.30pm.
Roedd y cerddwr yn swyddog heddlu ar ddyletswydd.
Mae Jake Fernades, 25 oed, o Gaerau, wedi cael ei gyhuddo o yrru beic trydanol oddi ar y ffordd Sur-Ron yn beryglus, gyrru heb yswiriant, gyrru heb drwydded, meddu ar ganabis gyda'r bwriad o'i gyflenwi a thyfu canabis.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd y bore yma (dydd Iau 13 Awst).
Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phryderon yn y gymuned am y defnydd anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol o e-feiciau ac e-sgwteri yng Nghaerdydd.
Mae ymgyrchoedd rheolaidd ar waith.
Mae mwy na 800 o gerbydau mecanyddol anghyfreithlon (MPVs) wedi cael eu hatafaelu ers mis Awst 2025 o ganlyniad i waith ar y cyd â Chyngor Caerdydd.