Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl anfon negeseuon rhywiol at rywun yr oedd e'n credu ei bod hi'n blentyn.
Gwnaeth Ashley John, 26 oed, o Waun Cae Gurwen, ddefnyddio Snapchat i gymryd rhan mewn sgwrs â phroffil yr oedd e'n credu ei fod yn perthyn i ferch 12 oed ym mis Hydref 2024. Yn ei negeseuon, honnodd John ei fod yn ffermwr defaid 17 oed o dde Cymru ac aeth ymlaen i gymryd rhan mewn cyfathrebu rhywiol, gan gynnwys anfon delweddau rhywiol ohono'i hun a gofyn am ddelweddau anweddus o'r plentyn.
I ddechrau, plediodd yn ddieuog i'r troseddau o geisio cymryd rhan mewn cyfathrebu rhywiol â phlentyn, ceisio achosi/annog merch dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol a cheisio achosi plentyn dan 13 oed i edrych ar ddelwedd o weithgarwch rhywiol, ond ar 6 Gorffennaf gwnaeth John newid ei ble i'r tair trosedd i euog.
Mae John wedi cael ei garcharu am dair blynedd a deg mis.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Hannah Millership:
"Mae'r ddedfryd hon yn adlewyrchu'r risg ddifrifol i blant, eu diogelwch a'u lles yn sgîl cyfathrebu rhywiol.
"Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y rheini sy'n ceisio camfanteisio ar blant ar-lein ac i gymryd camau i amddiffyn pobl ifanc sy'n agored i niwed."