Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mewn rhai sefyllfaoedd, mae’n bosibl y gallwch chi hawlio iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud oedd yn ddamweiniol neu’n anghyfreithlon mewn rhyw ffordd.
Mae’n annhebygol y bydd iawndal yn cael ei dalu os cafodd y difrod neu’r anaf eu hachosi wrth i’r heddlu weithredu’n gyfreithlon.
Gallwch ofyn i’r heddlu am iawndal am bethau fel:
Ysgrifennwch at:
Byddwn yn ateb gyda rhif cyfeirnod ac enw, rhif ffôn a chyfeiriad ebost y cyfreithiwr, y triniwr hawliadau neu’r person arall sy’n delio â’ch cais.
Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn anfon eich cais at gyfreithwyr allanol i’w drin ar ein rhan. Os felly, fe fyddan nhw’n ysgrifennu atoch gyda’r wybodaeth yma. O’r adeg honno ymlaen, gohebwch â’r person sy’n trin yr hawliad, gan gofio dyfynnu eich rhif cyfeirnod bob amser.
Byddwn yn ymchwilio i unrhyw hawliad dilys yn ein herbyn ac rydyn ni’n ceisio datrys y rhan fwyaf o hawliadau heb fod angen dechrau achos cyfreithiol. A dweud y gwir, mae’r llysoedd yn disgwyl i’r ddau barti geisio datrys anghydfod heb fynd i’r llys.
Dyna pam rydyn ni’n gofyn ichi roi manylion llawn eich cais a chaniatáu amser rhesymol inni ymchwilio a negodi cyn ichi ddechrau achos cyfreithiol yn ein herbyn.
Bydd rhai ceisiadau yn dilyn y rheolau gweithdrefn sifil (CPR) yma.
Os byddwch chi’n penderfynu dechrau achos cyfreithiol yn ein herbyn, anfonwch y manylion at:
Cyd-wasanaethau Cyfreithiol
Pencadlys yr Heddlu
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Mae adran Gwasanaethau Cyfreithiol Heddlu De Cymru wedi’i hawdurdodi i weithredu ar ran y prif gwnstabl ym mhob achos sifil, gan gynnwys adolygiadau barnwrol a hawliadau sifil eraill.