Cwnstabliaeth Wirfoddol Heddlu De Cymru yn cael Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol
Mae grŵp o 158 o ddynion a menywod rhwng 18 a 70 oed, y mae pob un ohonynt yn gwnstabliaid gwirfoddol presennol, wedi cael ei anrhydeddu â Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, y wobr uchaf y gall grŵp gwirfoddol ei gael yn y DU.