Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae heddluoedd ledled y wlad yn dangos eu cefnogaeth heddiw (dydd Gwener, 28 Mai) ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig LGBT+.
Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o gam-drin yng nghymunedau LGBT+ ac annog dioddefwyr i gysylltu â'r heddlu.
Mae hefyd yn cyfleu neges glir iawn – Nid yw Cam-drin Domestig yn Rhywbeth i fod yn Falch Ohono.
Fe'i lansiwyd yn y DU gan Gyd-gadeirydd Rhwydwaith Heddlu LGBT+ PC Amy Tapping, ac fe'i cynhelir ochr yn ochr â diwrnodau tebyg sy'n digwydd ledled y byd.
Mae hyn yn dilyn Sefydliad Ymwybyddiaeth Trais yn y Cartref LGBTQ yn Awstralia yn sefydlu diwrnod ymwybyddiaeth agoriadol y llynedd, ac ar ôl siarad â chydweithwyr yr ochr arall i'r byd, roedd PC Tapping yn benderfynol o ddod â digwyddiad yn nes at adref.
Mae'n gobeithio y bydd y diwrnod, yn y pen draw, yn annog rhagor o ddioddefwyr camdrin domestig i gysylltu â'r heddlu a gofyn am gymorth.
Dywedodd PC Tapping: "Mae diffyg sylweddol o ran rhoi gwybod am achosion o gam-drin domestig yn y gymuned LGBT+, a'n nod yw hyrwyddo'r diwrnod ymwybyddiaeth yn ogystal ag annog rhagor o ddioddefwyr i gysylltu â'r heddlu, ond rydym am fynd y tu hwnt i hynny a pharhau i feithrin cydberthnasau gwell yn y cymunedau hyn.
"Mae llawer o ddioddefwyr yn dioddef yn dawel, ac rydym am sicrhau eu bod yn gwybod y gallwn roi cymorth a helpu i roi llais iddynt.
“Mae llawer o waith yn mynd rhagddo yn genedlaethol i ddeall anghenion y gymuned LGBT+ yn well, a gwrando ar sut y gallwn gefnogi dioddefwyr camdrin domestig ymhellach.
“Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth ddiogelu dioddefwyr sy'n agored i niwed, a byddwn yn annog pawb i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer y diwrnod ymwybyddiaeth hwn.
“Mae'n bwysig bod pob un ohonom yn parhau i wneud yr ymrwymiad hwn drwy'r flwyddyn, gan wneud yr hyn a allwn i gefnogi ein gilydd – gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Mae'r Ditectif Gwnstabl Scot Anderson, Cyd-gadeirydd Cangen De Cymru Rhwydwaith Heddlu LGBT+ Cymru, yn cytuno bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn, a bod yn rhaid i'r gwaith barhau er mwyn annog dioddefwyr LGBT+ i roi gwybod am droseddau i'r heddlu.
Dywedodd: “Rydym yn gwybod bod llawer o hanes cymhleth rhwng yr heddlu a'r cymunedau LGBT+ rydym yn eu gwasanaethau, a'n nod yw gweithio gyda'r cymunedau hynny er mwyn meithrin cydberthnasau ac ailennyn unrhyw hyder a allai fod wedi'i golli.
“Mae'r pedwar heddlu yng Nghymru wedi ymrwymo i ddiogelu dioddefwyr trosedd LGBT+ ac maent yn falch o gefnogi'r Diwrnod Ymwybyddiaeth hwn.”
I gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch Rhwydwaith Heddlu LGBT+ Cenedlaethol ar-lein.
Rhoi gwybod am droseddau casineb
Mae troseddau casineb yn droseddau fel unrhyw drosedd arall, ond y gwahaniaeth rhyngddynt yw bod dioddefwr wedi'i dargedu o ganlyniad i'w anabledd, hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsrywiol.
Gall dioddefwyr a thystion roi gwybod am ddigwyddiadau i'r heddlu heb ofn.
Ewch i: https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101