Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyda rhagolygon tywydd braf ar gyfer Penwythnos Gŵyl y Banc, mae'r heddlu'n bwriadu cynnal mwy o batrolau er mwyn cadw ardaloedd arfordirol Caerdydd a Bro Morgannwg yn ddiogel.
Bydd Ymgyrch Elstree yn cynnwys lleoliadau allweddol, gan gynnwys Bae Caerdydd, Penarth ac Ynys y Barri, yn ogystal â'r Arfordir Treftadaeth rhwng Trwyn y Rhws ac Aberogwr.
O amser cinio ddydd Gwener tan fore dydd Mawrth, bydd hysbysiadau Adran 35 ar waith er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Aberogwr, Ynys y Barri a'r Baswn Hirgrwn ym Mae Caerdydd.
Mae hysbysiadau Adran 35 yn rhoi'r pŵer i swyddogion symud pobl ymlaen o ardal os byddant yn ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol.
Y penwythnos hwn, bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o Awdurdodau Lleol penodol i wynebu'r heriau yn yr ardaloedd hynny lle ceir lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â chydweithwyr o'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn dilyn cynnydd diweddar yn nifer y defnyddwyr rheilffyrdd i ardaloedd arfordirol.
Byddant yn gweithio fel tîm i atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan sicrhau y gall preswylwyr ac ymwelwyr sy'n dilyn y gyfraith fwynhau'r ardaloedd arfordirol hyn mewn heddwch.
Dywedodd y Prif Arolygydd Bella Rees: "Mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n ymweld â'n hardaloedd arfordirol hyfryd yn ymddwyn yn briodol ac yn unol â'r rheoliadau.
"Ond ni fyddwn yn goddef ymddygiad y nifer bach o bobl sy'n yfed gormod o alcohol ac yn amharu ar allu dinasyddion sy'n parchu'r gyfraith i fwynhau eu hunain mewn heddwch.
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu yn cael effaith niweidiol ar ein cymunedau, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i fynd ar batrôl mewn ardaloedd allweddol er mwyn atal hynny."
Lansiwyd Ymgyrch Elstree yn gynharach y mis hwn a bydd ar waith drwy gydol misoedd y gwanwyn a'r haf.
Yn ystod penwythnos cyntaf Ymgyrch Elstree, gorchmynnwyd pedwar dyn meddw o Bont-y-pŵl i adael Aberogwr oherwydd eu hymddygiad a chawsant lythyr rhybuddio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol cam 1.
Yn ystod yr ail benwythnos, cymerodd swyddogion alcohol oddi ar grŵp o fwy na 60 o bobl ifanc a oedd yn symud rhwng The Knap a Pharc Romilly, lle atafaelwyd yr hyn a amheuir eu bod yn gyffuriau Dosbarth A, wedi'u cuddio mewn llwyn.
Dilynwch ni ar Twitter @swpValeofGlamorgan ac @swpCardiff
#YmgyrchElstree #OpElstree #CadwBroMorgannwgYnDdiogel #CadwCaerdyddYnDdiogel