Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Jonathan Campbell, 37 oed, o Mayhill yn Abertawe, ddedfryd o garchar am oes yn Llys y Goron Abertawe heddiw (17 Mai) am lofruddio Helen Bannister. Bydd yn y carchar am o leiaf 18 o flynyddoedd.
Ar ôl clywed y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt o Dîm Ymchwiliadau Troseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Rwy'n croesawu'r ddedfryd ac rwy'n falch bod Jonathan Campbell bellach yn wynebu cyfnod sylweddol yn y carchar am lofruddio ei bartner.
“Roedd Jonathan Campbell a Helen mewn perthynas am chwe blynedd, a bu'n rhaid iddi wynebu blynyddoedd o fraw. Ni ddylai neb orfod dioddef cael eu cam-drin yn y fath fodd.
“Gobeithio y bydd y ddedfryd a gafodd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i deulu Helen, er y gwn na all unrhyw gyfnod yn y carchar wneud iawn iddynt am golled mor ofnadwy.
“Hoffwn ddiolch i deulu a ffrindiau Helen, yn enwedig ei merched Stacey a Sarah am eu cefnogaeth, yn ogystal â chymuned Waun Wen yn Abertawe. Llwyddwyd i sicrhau erlyniad ac euogfarn lwyddiannus, diolch i'r help a gafodd y tîm ymchwilio.
“Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag achosion o gam-drin domestig a byddwn yn annog unrhyw un sy'n wynebu cam-driniaeth o'r fath i roi gwybod i'r heddlu. Rydym yn cydnabod nad yw pawb sy'n wynebu cam-drin domestig yn cael anafiadau corfforol. Maent yn dioddef yn sgil y bygythiad a'r ofn o gael eu hanafu, o gael eu brawychu a bod eu bywyd yn cael ei fonitro a'i reoli.”
Mae teulu Helen Bannister hefyd wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol:
“Cafodd ein mam ei llofruddio gan ei phartner Jonathan Campbell ar 1 Rhagfyr 2020.
“Byddwn ni'n cofio'r diwrnod hwn am weddill ein bywydau fel yr adeg y chwalwyd ein byd.
“Rydyn ni wedi colli ein Mam ac ni fydd yn rhan o'n bywydau ni na'n teuluoedd wrth i ni dyfu i fyny gyda'n gilydd. Bydd yn colli cymaint o gerrig milltir.
“Roedd ein Mam yn ifanc ei hysbryd, yn llawn bywyd ac roedd yn caru cerddoriaeth. Bydd y golled yn fawr i'w holl deulu a ffrindiau, yn enwedig i ni, ei hwyrion, ei mam, ei chwaer a'i brawd.
“Mae ein bywydau wedi chwalu'n deilchion. Rydyn ni ar goll hebddi hi. Mae Campbell wedi dwyn ein dyfodol ni gyda'n mam.
“Mae ei hwyrion wedi colli'r cyfle i dreulio amser gyda hi wrth iddyn nhw dyfu'n hŷn. Maen nhw wedi ei cholli mor ifanc, ac mae'n drist gwybod efallai na fyddan nhw'n ei chofio hi.
“Mae ein holl fywydau wedi newid ac wedi'u dinistrio. Mae'n teimlo fel hunllef ofnadwy a dyw e ddim yn teimlo'n wir. Bydd yr hyn a ddigwyddodd yn effeithio ar bob un ohonom ni am weddill ein bywydau.
“Ni fydd y ddedfryd a gafodd Campbell byth yn ddigon ac ni fydd yn dod â'n mam ni yn ôl.”