Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a fu farw o ganlyniad i wrthdrawiad traffig ffyrdd yn Abertawe wedi cael ei enwi fel Dean Heaven, 46 oed, o Mayhill.
Bu farw Dean Heaven o ganlyniad i wrthdrawiad a ddigwyddodd ar gyffordd Graiglwyd Road a Townhill Road, Abertawe, tua 12.40am ddydd Sadwrn, 1 Mai.
Mae ei deulu wedi rhyddhau'r datganiad canlynol:
Roedd Dean yn Dad, yn Frawd, yn Frawd yng Nghyfraith, yn Dad yng Nghyfraith, yn Dad-cu ac yn Ewythr annwyl iawn.
Mae colli Dean yn dorcalonnus i ni fel teulu. Roedd ei fywyd yn rhy fyr o lawer.
Roedd yn gymeriad doniol a fyddai'n gwneud i unrhyw un chwerthin, ac ar ôl cwrdd ag ef, ni fyddech byth yn ei anghofio. Byddwn yn gweld ei eisiau'n arw.
Fel teulu, hoffem ddiolch i'r bobl a helpodd ac a ymatebodd i'r gwrthdrawiad. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi'n fawr yr holl sylwadau hyfryd a'r gefnogaeth rydym wedi eu cael gan bawb.
Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad hwn, neu a allai fod â fideo o gamera dashfwrdd, gysylltu â'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol gan ddyfynnu cyfeirnod 2100151541.
Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau canlynol:
Ewch i: https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch e-bost i: [email protected]
Ffoniwch: 101