Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Maent wedi cael eu harestio ar amheuaeth o derfysgu.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Morgan: “Mae'r ymchwiliad hwn yn fawr, ac yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru. Fodd bynnag, rydym ar y trywydd iawn i ddod o hyd i'r rhai a fu'n gyfrifol a disgwyliwn arestio mwy o bobl yn y diwrnodau nesaf. Mae tîm dynodedig o swyddogion yn archwilio llawer iawn o ddeunydd fideo y mae aelodau o'r cyhoedd wedi'i rannu â ni. Caiff y tîm ei gefnogi gan swyddogion o'n Huned Troseddau Mawr, a staff y mae ganddynt brofiad o ddefnyddio technoleg adnabod wynebau a rheoli deunydd teledu cylch cyfyng a deunydd fideo.
“Mae'r rhan fwyaf o'r bobl rydym wedi'u harestio wedi cael eu canfod drwy waith rhagweithiol yr heddlu, a gefnogwyd gan wybodaeth mewn negeseuon a ddaeth i law, ynghyd â chudd-wybodaeth a ddarparwyd gan y gymuned leol. Aeth tri unigolyn at yr heddlu o'u gwirfodd.
"Ers rhannu ein porth penodol er mwyn i aelodau o’r cyhoedd ddarparu fideos neu roi gwybodaeth inni, cyflwynwyd mwy na 400 o eitemau, ac mae llawer o’r rheini’n cynnwys sawl fideo o’r digwyddiad. Hoffwn ddiolch i bob aelod o'r cyhoedd sydd wedi cysylltu â ni i ddarparu fideos a gwybodaeth.
“Byddwn yn parhau i chwilio am y troseddwyr hynny nad ydynt wedi cael eu harestio eto, casglu tystiolaeth gan dystion a chyflwyno'r dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, er mwyn sicrhau bod ganddo'r wybodaeth lawn ac yn gallu ystyried y dystiolaeth i gyd er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch cyhuddo'r unigolion dan amheuaeth.”
Mae 13 o unigolion wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth, a byddwn yn monitro'r amodau llym sydd ynghlwm wrth eu mechnïaeth. Mae'r rhain yn cynnwys cyfyngiadau o ran eu symudiadau a chyrffyw yn ystod y nos. Mae'r ddau unigolyn arall wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.