Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Mr Selway wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Fel teulu rydym yn torri ein calonnau yn sgil y ddamwain drasig sy'n golygu bod ein teulu wedi colli tad, mab, brawd, ewythr, partner a ffrind. Rydym yn gofyn i bawb roi llonyddwch i ni ar yr adeg drist iawn hon. Rydym yn gwerthfawrogi cymorth pawb yn ystod y cyfnod hwn.”
Mae pedwar unigolyn arall, dau ddyn 18 oed a 22 oed yn ogystal â dyn 25 oed o Gaerdydd a menyw 32 oed o Ddinbych-y-pysgod a gafodd eu hanafu yn y gwrthdrawiad yn parhau i gael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Yn y digwyddiad, bu Ford Fiesta glas mewn gwrthdrawiad â Renault Clio gwyn rhwng cyffordd Hirwaun a chyffordd Llwydcoed ar yr A465.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu'r ffordd roedd y Ford Fiesta yn cael ei yrru yn ardaloedd Merthyr Tudful ac Aberdâr yn yr oriau cyn y digwyddiad, neu unrhyw un a allai fod â fideo o gamera dashfwrdd o'r digwyddiad i gysylltu â ni, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.
Mae dyn 18 oed o Ferthyr Tudful wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac mae dau ddyn 22 oed a 25 oed hefyd wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy'r dulliau canlynol gan ddyfynnu cyfeirnod 2100166580:
Er mwyn cysylltu â ni ewch i: https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Neu ffoniwch 101