Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â helynt ar Wentloog Avenue, Trowbridge, Caerdydd.
Mae James Anthony Mongan wedi ei gyhuddo o ddau achos o ymosod gan achosi niwed corfforol difrifol ac un achos o anhrefn dreisgar ar safle Shirenewton ddydd Sul, 21 Mawrth.
Ymddangosodd y dyn 35 oed o Lundain yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, 5 Mai, a chafodd ei ddal yn y ddalfa am gyfnod hwy. Mae treial wedi'i drefnu ar gyfer mis Tachwedd 2021.
Cafodd swyddogion eu galw yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ychydig ar ôl 4pm ddydd Sul, 21 Mawrth.
* Cafodd tri dyn eu hanafu yn ystod yr helynt, a gwnaeth un ohonynt ddioddef anafiadau a allai newid ei fywyd.
* Mae nifer o arfau wedi eu hatafaelu a chredir bod y rhai a fu'n gysylltiedig â'r digwyddiad yn adnabod ei gilydd.
* Cafodd 13 o ddynion eraill rhwng 16 a 52 oed eu harestio hefyd ar amheuaeth o anhrefn dreisgar, ymosodiad a meddu ar arfau ymosodol. O blith yr 13, mae wyth ar fechnïaeth yr heddlu ac mae pump wedi'u rhyddhau dan ymchwiliad.
Hoffem ddiolch i'r gymuned leol am ei hamynedd, ei dealltwriaeth a'i chydweithrediad tra roedd trefniadau ynysu'r heddlu ar waith yn ystod yr ymateb cychwynnol.
Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth, sy'n cynnwys nifer o heddluoedd eraill. Rydym yn rhagweld y caiff mwy o bobl eu harestio.
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, gan gynnwys deunydd fideo camera dashfwrdd, gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad *098726.
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101 neu'n ddienw drwy Taclo'r Tacle ar 101 555 111.