Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae grŵp o 158 o ddynion a menywod rhwng 18 a 70 oed, y mae pob un ohonynt yn gwnstabliaid gwirfoddol presennol, wedi cael ei anrhydeddu â Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, y wobr uchaf y gall grŵp gwirfoddol ei gael yn y DU.
Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol Heddlu De Cymru yn sefydliad unigryw sydd wedi integreiddio'n dda yn yr heddlu arferol. Mae wedi cynyddu'r oriau y mae'n gwirfoddoli bob blwyddyn 500% (52,606 o oriau) ac mae bellach yn sicrhau bod y cyfraniad hwn yn targedu'r galw.
Mae ei waith wedi denu diddordeb heddluoedd ym mhob cwr o'r wlad. Mae'r grŵp yn cynnwys 38 o fenywod a 120 o ddynion, ac mae 17 o'i wirfoddolwyr wedi gwasanaethu ers dros 10 mlynedd gyda'r dyn a'r fenyw sydd wedi gwasanaethu hwyaf, y naill wedi gwneud hynny am fwy na 36 mlynedd a'r llall am fwy na 29 mlynedd.
Mae'n darparu gwasanaeth plismona gwelededd uchel yn ei gymunedau, gan ymateb i filoedd o alwadau brys, dwyn miloedd o droseddwyr o flaen eu gwell a diogelu miloedd o bobl sy'n agored i niwed.
Mae wedi ffurfio partneriaeth â pharafeddygon y GIG i ddarparu Uned Ymateb ar y Cyd, gan ymateb i ddigwyddiadau lle mae angen cymorth yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans, e.e. argyfwng iechyd meddwl, digwyddiad gydag unigolyn agored i niwed ac ati. Arweiniodd y fenter hon at ostyngiad o 20% yn y galw am y ddau wasanaeth.
Mae'n un o gyfranwyr allweddol Man Cymorth Abertawe – partneriaeth ag Ambiwlans Sant Ioan, Bugeiliaid y Stryd a'r GIG sy'n cadw pobl yn ddiogel yn ystod economi liw nos brysur.
O ganlyniad i'w lwyddiant, ni all y rhan fwyaf o bobl wahaniaethu rhwng y gwirfoddolwyr a swyddogion llawn amser yr heddlu. Fodd bynnag, mae cwnstabliaid gwirfoddol yn cynrychioli'r heddlu yn eu cymunedau wrth gynrychioli eu cymuned yn yr heddlu.
Mae ein cymunedau wedi wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen yn sgil pandemig COVID-19. Mae gwasanaeth yr heddlu wedi gorfod gweithio'n ddiflino i gadw'r cyhoedd yn ddiogel drwy addysgu, ymgysylltu â gorfodi rheolau a chyfyngiadau sy'n newid yn gyson, gan sicrhau hefyd fod gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithredu wrth i nifer cynyddol o weithwyr fod yn absennol oherwydd y feirws. Mewn ymateb i hyn, nawr mae'r grŵp wedi gwirfoddoli am fwy na 80,000 o oriau ers i'r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno. Roedd hyn yn golygu eu bod yn wynebu risg uchel o ddal y feirws, ond aethant ati yn gwbl anhunanol gan flaenoriaethu gwasanaeth cyhoeddus dros eu hiechyd eu hunain a'u teuluoedd.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan: “Rwyf wrth fy modd bod gwaith ein Cwnstabliaid Gwirfoddol wedi cael ei gydnabod drwy gyflwyno Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.
“Mae'n haeddiannol iawn, ac yn cydnabod cyfraniad y Gwnstabliaeth Wirfoddol i gymunedau De Cymru – yn enwedig eu gwaith diflino wrth helpu gwasanaeth yr heddlu i fynd i'r afael â'r pandemig.
“Rhyngddynt, mae'r grŵp wedi gwirfoddoli am fwy na 80,000 o oriau ers dechrau'r cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud. Roedd hyn yn golygu eu bod yn wynebu risg uchel o ddal y feirws, ond aethant ati yn gwbl anhunanol gan flaenoriaethu gwasanaeth cyhoeddus dros eu hiechyd eu hunain a'u teuluoedd.”
Dywedodd Dale Cartwright, Prif Swyddog Cwnstabliaeth Wirfoddol Heddlu De Cymru: “Rwy'n falch iawn bod ein Cwnstabliaeth Wirfoddol wedi cael ei hanrhydeddu â Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol—yr MBE i grwpiau gwirfoddol.
“Rydym yn hynod ffodus fod gennym bobl mor ymrwymedig a galluog sy'n rhoi cymaint i ni er mwyn helpu i gadw De Cymru yn ddiogel. Mae'r wobr hon yn cydnabod eu gwaith caled a'r ffordd y maent wedi mynd y tu hwnt i'r galw, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.”
Mae Cwnstabliaeth Wirfoddol Heddlu De Cymru yn un o 241 o elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol i gael y wobr fawreddog eleni. Ceir nifer mawr o enwebiadau bob blwyddyn, gan ddangos bod y sector gwirfoddol yn ffynnu ac yn llawn syniadau arloesol i wneud bywyd yn well i'r bobl o'u cwmpas.