Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os mai chi yw’r dioddefwr, riportiwch achos o drais neu ymosodiad rhywiol mor fuan â phosibl. Hyd yn oed os nad ydych yn hollol siŵr, byddai’n well gennym glywed gennych yn fuan fel y gallwn wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel. Os nad ydych yn barod i siarad â’r heddlu eto, mae hynny’n iawn. Isod fe gewch wybodaeth am amrywiaeth o fannau i gael cefnogaeth, cyngor a chymorth meddygol.
Gallwch siarad â’r sefydliadau hyn yn gyfrinachol ac ni chaiff yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthynt ei rannu gyda’r heddlu oni bai eich bod yn gofyn i hynny ddigwydd.
Mae cynghorwyr annibynnol ar drais rhywiol (ISVAau) yn gweithio gydag oedolion a phlant sydd wedi profi trais rhywiol a’u teuluoedd i roi mynediad iddynt at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Gallwch siarad ag ISVA heb siarad â’r heddlu.
Dod o hyd i’ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol leol.
Llwybrau Newydd
Canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol ledled Cymru. Mae’n cynnwys gwasanaethau cwnsela ac eirioli ar gyfer menywod, dynion, plant a phobl ifanc yr effeithiwyd arnynt gan achos o drais neu ymosodiad rhywiol.
Ynys Saff
Canolfan iechyd yng Nghaerdydd ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi ymosodiad rhywiol.
Gall yr elusennau, grwpiau a sefydliadau isod hefyd ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth arbenigol.
Cymorth i Ddioddefwyr
Elusen genedlaethol sydd wedi ymrwymo i helpu unrhyw un yr effeithir arnynt gan drosedd – nid dim ond dioddefwyr a thystion, ond ffrindiau, teulu ac unrhyw un arall yr effeithiwyd arnynt yn sgil y drosedd.
Rape Crisis
Elusen genedlaethol sy’n darparu cymorth cyfrinachol, cyngor ac ystod o Ganolfannau Argyfwng Trais Rhywiol ledled y DU.
Galop
Elusen genedlaethol sy’n darparu cyngor a chefnogaeth i aelodau’r gymuned LHDT.
Survivors UK
Elusen genedlaethol sy’n cefnogi dynion sydd wedi dioddef achos o drais neu ymosodiad rhywiol.
Safeline
Elusen trais a cham-drin rhywiol arbenigol a arweinir gan anghenion ei chleientiaid.
Ymddiriedolaeth Survivors
Mae’n darparu cefnogaeth arbenigol i fenywod, dynion a phlant sydd wedi goroesi achosion o dreisio, trais rhywiol neu gam-drin rhywiol yn ystod plentyndod.
Crimestoppers
Elusen genedlaethol gyda llinell gymorth am ddim ar gyfer riportio trosedd yn ddienw.
Refuge
Mae Refuge yn cefnogi menywod, plant a dynion gydag amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys llochesi, eiriolaeth annibynnol, gwaith allgymorth cymunedol a gwasanaeth diwylliant-benodol.
Cymorth i Fenywod
Elusen genedlaethol yw Cymorth i Fenywod sy’n gweithio i roi terfyn ar gam-drin domestig yn erbyn menywod a phlant.
Llinell Gymorth i Ddynion: 0808 801 0327
Llinell gymorth gyfrinachol ar gyfer dynion sy’n profi trais domestig gan bartner neu gynbartner (neu gan unrhyw aelod arall o’r teulu).