Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os digwyddodd y digwyddiad yn ddiweddar, efallai y bydd modd casglu tystiolaeth fforensig a allai helpu'r achos.
Mae tystiolaeth fforensig yn golygu rhywbeth y gallai'r troseddwr fod wedi'i adael ar ôl ac a allai ein helpu i brofi beth ddigwyddodd.
Gall tystiolaeth fforensig gynnwys:
Dim ond yn y saith diwrnod cyntaf ar ôl i'r ymosodiad ddigwydd y gall rhai mathau o dystiolaeth fforensig feddygol gael eu cymryd. A gorau po gyntaf y caiff y dystiolaeth ei chasglu - yr ychydig ddyddiau cyntaf sy'n ddelfrydol.
Ond peidiwch â phoeni os ydy hi eisoes yn hwyrach na hynny. Dyw hynny ddim yn golygu ei bod yn rhy hwyr i gasglu tystiolaeth fforensig. Mae'n dal yn werth trafod tystiolaeth fforensig os digwyddodd y drosedd fwy na saith diwrnod yn ôl. Mae’n bosibl casglu rhai mathau o dystiolaeth fforensig, fel ffotograffau o anafiadau neu samplau o wallt os ydych chi wedi cael eich drygio, yn nes ymlaen.
Gall tystiolaeth gael ei chadw a’i rhannu gyda ni os penderfynwch chi riportio yn nes ymlaen.
Felly, os nad ydych chi’n siŵr, ond eich bod yn credu y gallech fod am riportio’r drosedd inni yn y dyfodol, mae casglu tystiolaeth fforensig cyn gynted ag y gallwch yn cadw’ch opsiynau’n agored ac yn cadw’r rheolaeth yn eich dwylo chi.
Os ydych chi’n credu y gallech fod am roi tystiolaeth fforensig, yna os oes modd
Peidiwch â phoeni os ydych chi wedi gwneud unrhyw un o'r pethau hyn yn barod na phoeni ei bod yn rhy hwyr i wneud unrhyw un o'r pethau hyn. Dyw hynny ddim yn golygu ei bod yn rhy hwyr i gasglu tystiolaeth fforensig.
Gallwch gael archwiliad meddygol fforensig mewn Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC). Gallwn ni eich cyfeirio at SARC neu gallwch eich cyfeirio chi’ch hun heb ein cynnwys ni o gwbl.
Mae rhai SARCs mewn ysbytai, mae eraill yn y gymuned leol. Mae ganddyn nhw enwau gwahanol mewn lleoliadau gwahanol o gwmpas y wlad.
Mae nifer o SARCs yn ardal Heddlu De Cymru.
Mae Ynys Saff yn cynnwys Caerdydd a'r Fro.
Mae Llwybrau Newydd yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r dolenni uchod yn rhoi eu lleoliadau a manylion y cymorth sydd ar gael.
Byddwch yn cael cymorth drwy broses yr archwiliad meddygol. Nyrs neu feddyg fydd yn gwneud yr archwiliad. Maen nhw wedi'u hyfforddi'n arbennig i wneud hyn mor sensitif â phosibl. Gallwch ofyn am gael gweld nyrs neu feddyg benywaidd neu wrywaidd. Byddan nhw’n cymryd eich hanes meddygol ac yn egluro beth yn union fydd yn digwydd.
Fe fyddan nhw:
Siaradwch â nhw os ydych chi’n awyddus i roi tystiolaeth ond nid ei rhannu gyda'r heddlu eto.
Os byddwch yn riportio’r drosedd inni, efallai y byddwn yn cynnig pecyn tystiolaeth gynnar ichi er mwyn casglu tystiolaeth fforensig cyn ichi fynd am archwiliad meddygol fforensig (os penderfynwch chi gael un).
Mae hyn yn ein galluogi i gasglu tystiolaeth a allai gael ei cholli fel arall, fel sampl wrin os oes angen ichi fynd i'r toiled, neu swab ceg os ydych chi eisiau bwyta neu yfed.