Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae yna lawer o fythau cyffredin ynghylch treisio ac ymosod rhywiol a allai wneud ichi feio’ch hun, neu gwestiynu a ydy'r hyn sydd wedi digwydd yn drosedd.
Does dim lle i'r mythau hyn yn y gyfraith. Dydyn ni ddim yn eu credu a fyddwn ni ddim yn eich amau o’u hachos nhw. Ni waeth pwy ydych chi na beth ddigwyddodd, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi.
Mae’r cwestiwn a ydy rhywbeth yn dreisio neu’n ymosodiad rhywiol yn ymwneud â chydsyniad.
Nid eich bai chi yw hi, ac mae'n dal yn dresio neu'n ymosodiad rhywiol, ni waeth beth am y pethau canlynol:
Rydyn ni’n defnyddio’r gair ‘dioddefwr’ yn aml, ond rydyn ni’n gwybod ei bod yn well gan rai ddefnyddio’r gair ‘goroeswr’. Dyma wybodaeth am yr iaith rydyn ni’n ei defnyddio i siarad am dreisio ac ymosod rhywiol.
Myth yw’r sôn bod y rhan fwyaf o bobl yn dioddef ymosodiad gan ddieithriaid ar lonydd bach tywyll. Mae'r rhan fwyaf o ymosodwyr yn adnabod eu dioddefwyr ac maen nhw’n gallu bod yn berthnasau, ffrindiau neu gydweithwyr.
Gall treisio ac ymosod rhywiol ddigwydd o fewn priodas a pherthynas. Mae rhyw yn ymwneud â chydsyniad. Os yw eich partner wedi’ch gorfodi, wedi’ch bygwth neu wedi pwyso arnoch i gael rhyw gyda nhw, dyna dreisio.
Rhagor o wybodaeth am y mythau ynghylch treisio gan Rape Crisis.
Rydyn ni’n gwybod bod penderfynu riportio treisio ac ymosod rhywiol yn gallu bod yn anodd. Chi sydd i ddewis beth i'w wneud bob amser. Rydyn ni wedi llunio gwybodaeth a allai’ch helpu i penderfynu ai riportio’r peth yw’r cam cywir i chi.
Os byddwch yn penderfynu riportio i'r heddlu, gallwch riportio’r peth:
Os hoffech chi riportio’r peth ond nid ydych yn awyddus i siarad yn uniongyrchol â ni, gallwch riportio treisio ac ymosodiadau rhywiol hefyd i sefydliadau cymorth sy’n gallu’ch helpu drwy’r broses i gyd.