Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dinoethi anweddus (sy’n cael ai alw’n ‘dinoethi’ yn y gyfraith, ac sydd weithiau'n cael ei adnabod fel 'fflachio') yw pan fydd rhywun yn dangos ei organau rhywiol yn fwriadol er mwyn dychryn rhywun arall neu beri gofid iddyn nhw.
Gall dynion a menywod gyflawni dinoethi anweddus. Gall ddigwydd yn gyhoeddus neu'n breifat.
Trosedd wahanol, sef sarhau gwedduster cyhoeddus, yw pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth anllad, anweddus neu ffiaidd ym mhresenoldeb o leiaf ddau aelod o'r cyhoedd.
Efallai y byddwch yn teimlo pryder, ofn, diffyg ymddiriedaeth neu fel pe bai rhywun wedi ymyrryd â chi. Neu efallai na fyddwch chi’n teimlo braw neu ofid o gwbl. Does dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo.
Mae'n cymryd dewrder i riportio rhywbeth anghyffyrddus, ond os ydych chi’n teimlo y gallwch chi siarad â ni, fe fyddwn ni bob amser yn eich cymryd chi o ddifrif.
Gall eich adroddiad ein helpu i atal hyn rhag digwydd i rywun arall. Weithiau mae pobl sy'n cyflawni'r math hwn o drosedd yn mynd ymlaen i gyflawni troseddau mwy difrifol.
Ydy hi’n teimlo y gallai'r sefyllfa droi’n gas neu’n dreisgar yn fuan iawn? Oes rhywun mewn perygl uniongyrchol? Oes arnoch chi angen cymorth ar unwaith? Os felly, galwch 999 nawr.
Os oes gennych chi nam ar y clyw neu'r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth neges destun brys.
Os nad yw'n argyfwng, gallwch riportio dinoethi anweddus neu sarhau gwedduster cyhoeddus drwy weithred rywiol:
Elusen annibynnol sy'n helpu dioddefwyr troseddau, eu teulu neu eu ffrindiau.