Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG) yn sefydliad sy'n gyfrifol am benderfynu pa achosion a ddylai fynd i dreial yn y llys. Mae’n sefyll ar wahân i'r heddlu a’r llywodraeth.
Os bydd GEG yn penderfynu bod digon o dystiolaeth i fynd â'ch achos i'r llys, byddwn yn eich cefnogi chi drwy gydol y broses.
Gallwch gael cymorth hefyd gan Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA) neu wasanaethau cymorth eraill i dystion.
Cymorth ar gyfer treisio ac ymosodiad rhywiol
Sefydliadau cymorth i ddioddefwyr a thystion
Mae'n amrywio ac felly allwn ni ddim rhoi amserlen bendant i chi, ond gall fod bwlch hir rhwng y penderfyniad i fynd ag achos i'r llys a chynnal y treial.
Os bydd unigolyn o dan amheuaeth yn cael ei gyhuddo ac yn pledio’n 'ddieuog' mae'n debygol iawn y gofynnir i chi roi tystiolaeth yn y llys.
Gallwch ofyn am 'fesurau arbennig' i wneud mynd i'r llys yn haws ichi. Mae'r rhain yn cynnwys:
Os ydych chi’n dymuno, byddwch yn gallu ymweld â'r llys cyn y treial i edrych o gwmpas a chael esboniad o broses llys.
Mae llysoedd yn agored i'r cyhoedd, ac mae’n bosibl y bydd newyddiadurwyr yno i ohebu am yr achos.
Ond mae'n erbyn y gyfraith i unrhyw un, gan gynnwys newyddiadurwyr, gyhoeddi’ch enw neu unrhyw fanylion a allai eich adnabod, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
Y rheswm am hyn yw bod gan bobl sy'n riportio troseddau rhywiol i'r heddlu hawl awtomatig i beidio â chael eu henwi'n gyhoeddus gydol eu hoes.
Ar ôl y treial, gallai’r diffynnydd gael ei ddyfarnu’n euog neu'n ddieuog.
Os caiff ei ddyfarnu’n euog, efallai y bydd yn cael dedfryd gan y llys. Gall y llys orchymyn gwahanol fathau o gosb. Gallai hyn fod yn ddedfryd o garchar, ond nid pob troseddwr sy’n cael ei anfon i'r carchar.
Fel arfer, bydd unrhyw un sy'n cael ei ddyfarnu’n euog o dreisio yn cael ei anfon i'r carchar. Ond, gan ddibynnu ar beth ddigwyddodd, fe allai'r gosb am ymosodiad rhywiol fod yn orchymyn cymunedol, a allai gynnwys gwneud gwaith di-dâl, cyrffyw, neu gael eich gwahardd rhag gwneud pethau penodol.
Rhagor am beth sy'n digwydd ar ôl treial, gan gynnwys gwybodaeth am apelio yn erbyn y ddedfryd, y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr, cyfiawnder adferol, gwneud cwyn ac iawndal.