Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sbeicio diod yw pan fydd alcohol a chyffuriau yn cael eu hychwanegu at eich diod heb eich caniatâd.
Mewn rhai achosion gallai 'cyffuriau treisio ar ddêt’ gael eu defnyddio i sbeicio diod cyn treisio neu ymosodiad rhywiol.
Mae sbeicio diodydd rhywun yn anghyfreithlon, hyd yn oed os na fydd neb yn ymosod arnoch chi.
Gall pobl hefyd fod yn ddioddefwyr ‘sbeicio drwy nodwydd’, sef chwistrellu rhywun â chyffuriau heb eu caniatâd.
Nid ar ddêt yn unig y mae 'cyffuriau treisio ar ddêt’, fel maen nhw’n cael eu hadnabod, yn cael eu defnyddio. Gallai ymosodwr fod yn rhywun rydych chi newydd gyfarfod â nhw neu rywun rydych chi'n ei adnabod ers tro.
Mae'r term 'treisio ar ddêt’ yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin, felly rydyn ni wedi penderfynu ei ddefnyddio yma, ond nid yw hynny'n awgrymu bod treisio gan rywun rydych chi'n ei adnabod yn drosedd lai difrifol.
Mae alcohol yn gyffur treisio ar ddêt sy’n cael ei ddefnyddio’n gyffredin. Mae’n gallu cael ei ychwanegu at ddiod ysgafn heb yn wybod ichi, neu efallai y bydd rhywun yn rhoi mesurau dwbl ichi ar ôl ichi ofyn am un sengl.
Gall cyffuriau treisio gael eu cymysgu i mewn i ddiodydd ac maen nhw bron yn amhosibl eu canfod. Maen nhw'n gwneud i bobl deimlo'n wan ac yn ddryslyd ac yn gallu achosi iddyn nhw lewygu ac anghofio popeth a ddigwyddodd tra oedden nhw ar y cyffur.
Dyma’r cyffuriau treisio ar ddêt mwyaf cyffredin:
Cyffuriau treisio ar ddêt sy’n llai cyffredin yw:
Gall fod yn anodd gwybod a ydy’ch diod wedi'i sbeicio, ond os ydych chi'n teimlo'n rhyfedd neu fel petaech chi wedi cael mwy o alcohol i yfed nag a gawsoch chi mewn gwirionedd, yna mynnwch help ar unwaith.
Gallai’r symptomau gynnwys:
Ydy hi’n teimlo y gallai'r sefyllfa droi’n gas neu’n dreisgar yn fuan iawn? Oes rhywun mewn perygl uniongyrchol? Oes arnoch chi angen cymorth ar unwaith? Os felly, galwch 999 nawr.
Os oes gennych chi nam ar y clyw neu'r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth neges destun brys.
Un o brif effeithiau cyffuriau treisio ar ddêt yw colli cof, felly efallai na fyddwch yn siŵr a ydych chi wedi dioddef ymosodiad ai peidio.
Eich dewis chi bob amser yw riportio treisio neu ymosodiad rhywiol posibl. Ond os byddwch chi’n penderfynu riportio trosedd, fe allwch chi:
Os hoffech chi riportio’r peth i'r heddlu, gallwch chi wneud hynny:
Sut i riportio treisio ac ymosodiadau rhywiol
Gallwch riportio sbeicio diodydd hyd yn oed os nad ydych yn credu bod rhywun wedi ymosod arnoch chi.
Os byddwch yn rhoi caniatâd, gellir gwneud profion fforensig i chwilio am gyffuriau treisio yn eich system. Mae angen cymryd samplau gwaed ac wrin yn eithaf buan ar ôl y digwyddiad. Ond mae modd defnyddio samplau o wallt ac ewinedd i ganfod cyffuriau yn llawer nes ymlaen.
Rhagor o wybodaeth am dystiolaeth fforensig mewn treisio ac ymosodiadau rhywiol.
Gallwch gael cefnogaeth ar gyfer treisio ac ymosodiadau rhywiol p'un a ydych chi am riportio’r drosedd i ni ai peidio.
Gall sbeicio diodydd ddigwydd mewn unrhyw sefyllfa ac nid eich bai chi yw hyn.
Elusen annibynnol sy'n helpu dioddefwyr troseddau, eu teulu neu eu ffrindiau.