Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Byddwn yn gofyn ichi roi datganiad ffurfiol inni. Weithiau mae hwn yn cael ei alw’n ddatganiad 'Sicrhau’r Dystiolaeth Orau' (ABE). Byddwn yn gofyn ichi ddweud beth ddigwyddodd a hynny mor fanwl â phosibl, i helpu gyda'r ymchwiliad.
Os ydych chi’n cytuno, bydd y datganiad yn cael ei recordio ar fideo. Os bydd yr achos yn mynd i dreial, gall y fideo gael ei chwarae yn y llys yn hytrach na bod rhaid ichi ailadrodd eich datganiad yn bersonol.
Byddwn yn cytuno ar gynllun cysylltu gyda chi fel eich bod yn gwybod pryd y byddwch yn clywed gennyn ni. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cytuno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi bob 28 diwrnod, neu pryd bynnag y bydd yna rywbeth newydd i'w ddweud wrthych.
Ar yr adeg yma, efallai y bydd yn teimlo fel petai pethau'n arafu. Gall gymryd amser hir inni adeiladu'r achos cryfaf posibl.
Mae ymchwiliadau'n cymryd misoedd yn hytrach nag wythnosau, ac mewn nifer fach o achosion gall gymryd llawer mwy o amser.
Mae cymorth ar gael drwy gydol y broses.
Cymorth ar gyfer treisio ac ymosodiad rhywiol
Ar ôl inni ymchwilio, gallwn ni benderfynu naill ai:
Mae GEG yn sefydliad sy'n gyfrifol am benderfynu pa achosion a ddylai fynd i dreial yn y llys. Mae’n sefyll ar wahân i'r heddlu a’r llywodraeth.
Os byddwn ni’n cyfeirio'r achos at Wasanaeth Erlyn y Goron byddan nhw’n penderfynu a ddylai’r unigolyn sydd o dan amheuaeth gael ei gyhuddo ai peidio.
Byddan nhw’n edrych ar y dystiolaeth ac yn penderfynu a ydyn nhw’n credu bod siawns realistig y bydd yr unigolyn dan amheuaeth yn cael ei ddyfarnu’n euog. Os nad oes, yna bydd GEG yn cau'r achos.
Gallai GEG gau achos hefyd os ydyn nhw’n penderfynu na all erlyniad fynd yn ei flaen am ryw reswm arall, er enghraifft os yw'r unigolyn dan amheuaeth yn rhy hen neu'n rhy sâl i sefyll ei brawf.
Os bydd GEG yn penderfynu cyhuddo’r unigolyn dan amheuaeth, yna bydd yr achos yn symud ymlaen i'r cam nesaf.
Beth sy’n digwydd pan fydd achos treisio neu ymosodiad rhywiol yn mynd i dreial
Os nad ydyn ni’n credu bod digon o dystiolaeth i barhau ag erlyniad, fyddwn ni ddim yn cyfeirio'r achos at Wasanaeth Erlyn y Goron, a byddwn yn cau'r ymchwiliad. Byddwn yn dweud wrthoch chi pam rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad hwn.
Os penderfynwn ni gau'r ymchwiliad, nid yw hynny'n golygu nad ydyn ni’n eich credu chi neu eich bod chi wedi gwastraffu’ch amser yn riportio’r drosedd i ni. Hyd yn oed os na allwn ni bob amser ddod â phobl i gyfiawnder drwy'r system cyfiawnder troseddol, gall pob adroddiad ein helpu i atal troseddau yn y dyfodol.
Os nad ydych chi’n cytuno â phenderfyniad i gau eich achos (naill ai gan yr heddlu neu'r GEG), gallwch ofyn am adolygiad o'r penderfyniad o dan gynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad (VRR).
Nid chi yw'r unigolyn sy'n destun ymchwiliad a ddylech chi ddim cael eich gwneud i deimlo felly. Dylai’n hymchwiliad ni ganolbwyntio ar yr unigolyn sydd o dan amheuaeth ac nid arnoch chi.
Ond yn ystod yr ymchwiliad mae’n bosibl y byddwn ni’n gofyn am eich caniatâd i gasglu tystiolaeth o'ch ffôn neu o’ch cyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol. Dim ond gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i'r drosedd y byddwn ni’n ei chymryd.
Chi sy'n rheoli pethau, ac os nad ydych chi am roi mynediad inni, does dim rhaid ichi wneud. Ond fe fyddwn ni’n trafod eich rhesymau gyda chi ac yn ceisio lleddfu’ch pryderon.
Os bydd yr achos yn mynd i dreial a'ch bod chithau wedi dewis peidio â rhoi mynediad i'ch data, efallai y bydd y cyfreithwyr sy'n amddiffyn y cyhuddedig yn ceisio awgrymu eich bod chi’n cuddio rhywbeth.
Os bydd yr achos yn mynd i'r llys, efallai y bydd rhywfaint o'r data o’ch ffôn a’ch cyfryngau cymdeithasol yn cael ei ddangos i'r cyfreithwyr sy'n amddiffyn yr unigolyn sydd o dan amheuaeth. Mae hyn yn golygu y gallai'r sawl sy'n cael ei amau ddod i'w weld.
Gall hyn i gyd beri gofid, ond rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig dweud wrthoch chi am y posibiliadau, er mwyn ichi wneud dewis gwybodus am beth i'w wneud. Beth bynnag benderfynwch chi, byddwn yn eich arwain a'ch cefnogi drwy'r broses.
Rydyn ni’n cymryd gofal mawr i gadw pobl yn ddienw rhag y wasg a'r cyhoedd. Ond mae yna bethau y gall fod angen inni eu rhannu gyda rhai pobl eraill:
Gallai tystion y byddwn ni’n siarad â nhw gynnwys unrhyw un a welodd neu a glywodd rywbeth, neu unrhyw un rydych chi wedi siarad â nhw am y digwyddiad.
Mae'n erbyn y gyfraith i unrhyw un gyhoeddi’ch enw neu fanylion a allai eich adnabod chi (gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol). Mae gan unrhyw un sy'n riportio troseddau rhywiol i'r heddlu hawl awtomatig i aros yn ddienw yn gyhoeddus gydol eu hoes.
Weithiau, rydyn ni’n rhyddhau datganiad i'r wasg ynglŷn ag achos er mwyn chwilio am dystion neu bobl eraill a allai fod wedi dioddef gan yr un troseddwr. Ond dyw’r heddlu ddim yn cael rhyddhau’ch enw'n gyhoeddus ac mae gennyn ni lawer o brofiad o ran cadw pobl yn ddienw.
Mae gennych chi hawl i gael eich trin â pharch ac urddas bob amser. Ond rydyn ni’n gwybod y gall eich profiad weithiau deimlo'n annheg, yn ansensitif neu'n waeth.
Os bydd hyn yn digwydd i chi, rydyn ni am eich cefnogi a gwneud pethau'n well. Os na allwn ni, rydyn ni am ei gwneud hi mor hawdd â phosibl ichi ein dwyn i gyfrif.
Os ydych chi’n anfodlon ar ein penderfyniad i beidio â chyhuddo rhywun neu drosglwyddo’ch achos i Wasanaeth Erlyn y Goron, efallai y gallech ddefnyddio cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad (VRR).
Os ydych chi'n anfodlon ar unrhyw beth arall ynglŷn â’r ffordd rydyn ni wedi'ch trin chi, fe allwch chi:
Os byddwch chi’n penderfynu nad ydych chi am barhau â'r ymchwiliad, gallwch oedi neu stopio unrhyw bryd. Gallwch ofyn i'ch achos gael ei ailagor eto yn nes ymlaen os byddwch yn newid eich meddwl.
Hyd yn oed os byddwch yn penderfynu tynnu'n ôl, gall eich adroddiad ein helpu i atal pobl rhag cyflawni troseddau yn y dyfodol.
Os ydyn ni wedi arestio rhywun sydd o dan amheuaeth, efallai y bydd yr unigolyn yn cael ei gadw yn y carchar yn ystod ymchwiliad, neu efallai y caiff ei ryddhau.
Os caiff ei ryddhau, efallai y bydd cyfyngiadau ar yr hyn y gall ei wneud, er enghraifft peidio â chysylltu â rhai pobl neu fynd i leoedd penodol.
Beth sy’n digwydd pan fydd achos treisio neu ymosodiad rhywiol yn mynd i dreial