Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'n anghyfreithlon rhannu neu fygwth rhannu lluniau neu fideos preifat, rhywiol o rywun heb eu caniatâd.
Yr enw ar hyn yw cam-drin drwy ddelweddau personol neu bornograffi dial, ac mae’n cynnwys:
Ystyr ‘preifat’ yw unrhyw beth nad yw fel arfer yn cael ei weld yn gyhoeddus. Yn ôl y gyfraith, ystyr ‘rhywiol’ yw unrhyw beth sy'n dangos organau rhywiol neu fannau preifat person ac unrhyw beth arall y mae 'person rhesymol' o’r farn ei fod yn rhywiol.
Gall unrhyw un ddioddef camdriniaeth drwy ddelweddau personol. Bydd y troseddwr yn aml yn gyn-bartner neu'n rhywun rydych chi'n ei adnabod, ond gall hefyd fod yn ddieithryn.
Mae gan y rhan fwyaf o wefannau yn y cyfryngau cymdeithasol reolau yn erbyn rhannu cynnwys personol heb gydsyniad, felly fe ddylech chi allu trefnu bod y deunydd yn cael ei ddileu. Gall y Llinell Gymorth Pornograffi Dial eich helpu i riportio’r deunydd i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd riportio’r math hwn o drosedd inni, ond mae’n swyddogion ni yma i wrando ac i'ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Gallwch riportio cam-drin drwy ddelweddau personol inni:
Cyngor a gwybodaeth a help i ddileu delweddau.
Yn agored rhwng 10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch hefyd gysylltu â nhw'n ddienw i ddechrau drwy ddefnyddio eu Whisper Report.
Mae'r gwasanaeth Llinell Gymorth Pornograffi Dial ar gyfer oedolion (18 oed a throsodd) yn unig.
Help a chyngor i’r rhai o dan 18 oed. Gall Childline eich helpu i dynnu delweddau sydd wedi’u rhannu oddi ar y rhyngrwyd.
Riportio lluniau neu fideos cam-drin plant yn rhywiol ar y rhyngrwyd, a hynny’n ddienw ac yn gyfrinachol.
Riportiwch gamdriniaeth rywiol plant ar-lein i ganolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein yr heddlu.