Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oes rhywun ar fin dioddef ymosodiad neu gael ei frifo? Oes trosedd yn digwydd y funud hon? Os oes, galwch 999 a gofynnwch am yr heddlu.
Os oes gennych chi nam ar y clyw neu'r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth neges destun brys.
Os ydych chi mewn perygl ond yn methu siarad ar y ffôn, dylech chi alw 999 o hyd, yna dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.
Does dim ffordd gywir o deimlo neu weithredu os ydych chi wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Chi sy’n penderfynu beth i’w wneud. Ond dyma rai pethau y gallech fod eisiau eu gwneud neu feddwl amdanyn nhw yn gyntaf.
Gallwch siarad â ffrind dibynadwy neu aelod dibynadwy o'r teulu am yr hyn sydd wedi digwydd
Os hoffech chi siarad â rhywun arall, mae yna lawer o bobl a all eich helpu, gan gynnwys Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) neu elusen fel Rape Crisis.
Os digwyddodd y digwyddiad yn ddiweddar, efallai y bydd modd casglu tystiolaeth fforensig a allai helpu'r achos.
Mae tystiolaeth fforensig yn golygu rhywbeth y gallai'r troseddwr fod wedi'i adael ar ôl ac a allai ein helpu i brofi beth ddigwyddodd.
Eich dewis chi bob amser yw riportio i'r heddlu. Ond os nad ydych chi’n siŵr, gallwch gadw’ch opsiynau’n agored drwy ddiogelu tystiolaeth fforensig.
Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, ceisiwch beidio â gwneud y canlynol:
Ond peidiwch â phoeni os ydych chi wedi gwneud unrhyw un neu ragor o'r pethau hyn yn barod. Dyw hynny ddim yn golygu ei bod yn rhy hwyr i unrhyw dystiolaeth fforensig gael ei chasglu.
Rhagor am dystiolaeth fforensig mewn treisio ac ymosodiadau rhywiol
Os ydych chi'n poeni am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) neu feichiogrwydd, chwiliwch am wasanaethau iechyd rhywiol drwy wefan y GIG.
Rydyn ni’n gwybod bod penderfynu riportio treisio ac ymosod rhywiol yn gallu bod yn anodd. Chi sydd i ddewis beth i'w wneud bob amser. Rydyn ni wedi llunio gwybodaeth a allai’ch helpu i benderfynu ai riportio’r peth yw’r cam cywir i chi..
Os byddwch yn penderfynu riportio’r peth, fe allwch chi:
Os penderfynwch chi riportio’r drosedd i'r heddlu, gallwch ei riportio:
Ffyrdd i riportio treisio ac ymosodiadau rhywiol
Beth sy’n digwydd gyntaf ar ôl ichi riportio treisio neu ymosodiad rhywiol