Dau ddyn wedi'u carcharu am gyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn Abertawe
Roedd Osman Ishmail, 38 oed o ganol dinas Abertawe, a Mustafa Daud, 43 oed o Silvertown, Llundain, yn teithio mewn car a gafodd ei stopio gan swyddogion ym mis Chwefror wedi i gudd-wybodaeth nodi bod y cerbyd yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau.