Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am drywanu yn Llanrhymni, Caerdydd.
Cafwyd Connor Hobbs, 31 oed, yn euog o glwyfo'n fwriadol ac o fod â chyllell yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad ar Glastonbury Terrace.
Cafodd yr heddlu alwad yn rhoi gwybod bod unigolion yn ymladd tua 11.50am ddydd Mercher, 4 Medi, 2024.
Roedd Hobbs wedi trywanu dyn 50 oed, yr oedd yn ei adnabod, yn ei lygad gan achosi iddo golli ei olwg.
Cafodd ei arestio yn y fan a'r lle, a ddoe (Dydd Llun 21 Gorffennaf) cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i 13 mlynedd a phedwar mis yn y carchar.
Mewn datganiad i'r llys, dywedodd y dioddefwr:
“Dyma'r peth gwaethaf sydd erioed wedi digwydd i mi. Nid yn unig y digwyddiad ei hun, ond yr effeithiau y mae wedi'u cael ar fy llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol.
“Byddaf yn ddall yn fy llygad chwith am weddill fy oes, ac mae creithiau'r diwrnod yn rhai parhaol. Ni fyddaf byth yn gallu dianc rhag yr effaith y mae'r digwyddiad hwn wedi'i chael arnaf.”
Mae'r achos hwn yn tynnu sylw unwaith eto at ganlyniadau dinistriol troseddau cyllyll.
Ni fydd cario cyllyll ar ein strydoedd yn cael ei oddef. Darllenwch fwy am ein hymgyrch i atal troseddau cyllyll: https://southwales.nottheone.co.uk/cy/