Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae cwpl o Gaerdydd a gyflawnodd nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant wedi cael eu carcharu.
Anfonodd Tracy Turner o'r Rhath, a Stuart Compton o Cathays, negeseuon at ei gilydd yn trafod eu bywydau rhyw a threfnu i gam-drin tri phlentyn wedi'u henwi yn rhywiol.
Fel rhan o'r ymchwiliad, adolygodd ditectifs tua 96,000 o negeseuon rhwng y diffynyddion a oedd yn trafod yr hyn y roeddent am ei wneud i'r dioddefwyr sy'n blant.
Cyfaddefodd Turner, 51 oed, i chwe chyhuddiad o gomisiynu troseddau rhyw yn erbyn plant, a dau gyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant.
Plediodd Compton yn euog hefyd i chwe chyhuddiad o drefnu troseddau rhyw yn erbyn plant.
Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Mehefin 2025, pan gafwyd gwybodaeth am sgyrsiau a oedd yn peri pryder, yn cynnwys Compton, ar ap caru. O ganlyniad, cafodd ei ffôn ei atafaelu, gan ddatgelu miloedd o negeseuon rhyngddo ef a Turner.
Cafodd Turner ei dedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar gyda thrwydded estynedig o ddwy flynedd.
Cafodd Compton ei ddedfrydu i garchar am oes a bydd rhaid iddo fod yn y carchar am o leiaf chwe blynedd a 131 o ddiwrnodau cyn cael ei ystyried ar gyfer parôl.
Byddant hefyd yn destun Gorchmynion Atal a Gorchmynion Atal Niwed Rhywiol.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd David Butt, o Heddlu De Cymru:
“Mae'r ddedfryd heddiw yn dod ag ymchwiliad 12 mis i ben, lle yr adolygodd tîm bach o dditectifs tua 96,000 o negeseuon yr oedd Tracy Turner a Stuart Compton wedi'u hanfon at ei gilydd.
“Roedd nifer y negeseuon a natur y cynnwys yn annymunol - y gwaethaf o'r gwaethaf - ond dangosodd y swyddogion wydnwch a phenderfyniad er mwyn eu dwyn i gyfrif.
“Yn ffodus, nid oedd y dioddefwyr yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd. Mewn datganiadau a roddwyd i'r llys, mae rhai aelodau o deuluoedd y dioddefwyr wedi disgrifio effaith ddinistriol y troseddau arnynt, ac rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt.
“Mae troseddwyr fel Turner a Compton yn credu y gallant guddio y tu ôl i sgriniau, ond mae'n amlwg nad yw hynny'n wir.
“Mae'n flaenoriaeth wirioneddol gennym ddiogelu plant, ac rwy'n ddiolchgar i'm cydweithwyr am eu hymchwiliad trylwyr i'r achos erchyll hwn, a chydweithrediad Gwasanaeth Erlyn y Goron.
“Bydd erlyniad a chollfarn llwyddiannus y ddau reibiwr rhywiol peryglus hyn, yn sicrhau y caiff plant eu hamddiffyn.”
Mewn datganiadau a roddwyd i'r llys, disgrifiodd aelodau o deuluoedd y dioddefwyr effaith ddinistriol y troseddau arnynt.
Dywedodd un fam: “Mae ein byd wedi cael ei droi ben i waered....rydym wedi cael ein llorio'n llwyr o wybod am ran ein merch yn eu cynlluniau budr. Rwy'n gobeithio dros amser y gallaf gael rhywfaint o falans yn ôl, a bydd y arswyd mewnol hwn yn lleihau.”
Dywedodd mam arall: “Ni allwn faddau'r syniad o'r hyn a allai fod wedi cael ei wneud i'n merch gan ddau berson gyda bwriadau rhywiol ffiaidd. Ni allwn anghofio'r hyn rydym yn ei wybod. Mae difrifoldeb hyn yn enfawr ac yn anodd ei gyfleu mewn geiriau, nid oes neb am fod yn agored i niwed, ond dyma ni.”
Dywedodd un tad: “Mae'r boen y mae Tracy Turner a Stuart Compton wedi'i hachosi i mi a'm teulu yn annealladwy. Rwy'n gobeithio y bydd yr hyn y maent wedi'i wneud i mi a'm teulu yn aros gyda nhw am weddill eu hoes.”
Gofynnir i unrhyw un sy'n pryderu am ei blentyn roi gwybod am unrhyw ymddygiad a gweithgarwch amheus i'r heddlu.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.