Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi'i garcharu ar ôl pledio'n euog i dri achos o dreisio a throseddau eraill a oedd yn cynnwys pedair dioddefwr benywaidd.
Gwnaeth Jamil Ahmed, dyn 28 oed o Glydach, dreisio un o'r dioddefwyr ar ôl gwneud bygythiadau o drais os na fyddai wedi cydymffurfio â'i ddymuniadau.
Newidiodd Ahmed ei ble o un achos yr un o dreisio ac ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol o ddieuog i euog ym mis Gorffennaf. Plediodd yn euog i gyfanswm o dri achos o dreisio, tri achos o ymddygiad rheolaethol/gorfodaethol ac un achos o aflonyddu, gan achosi i'w ddioddefwr ofni trais.
Mae wedi ei ddedfrydu i 20 mlynedd yn y carchar, â chyfnod estynedig o wyth mlynedd, i gyd-redeg.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Judith Williams:
"Cododd Jamil Ahmed ofn ofnadwy ar ei ddioddefwyr drwy ei byliau ymosodol a bygythiadau a wnaeth iddynt deimlo nad oedd ganddynt ddewis oni cytuno i'w ofynion rheibus.
"Nid oedd hyn yn rhywbeth a ddigwyddodd ar un achlysur yn unig.
"Roedd hwn yn batrwm o ymddygiad a ddigwyddodd am gyfnod hir, ac mae wedi chwarae rhan enfawr yn sicrhau'r ddedfryd estynedig mae wedi ei chael heddiw.
“Rydym yn cymeradwyo'r dioddefwyr am eu dewrder yn dod ymlaen, ac yn gobeithio y gallant ddechrau symud ymlaen yn eu bywydau nawr gan na fydd Jamil Ahmed bellach yn rhan ohonynt.
"I unrhyw un arall sy'n dioddef, neu sydd wedi bod yn ddioddefwr trosedd rywiol: rhowch wybod i ni. Gall ein tîm o swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig eich cefnogi.”