Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gweld Fi yn archwilio'r senarios gwahanol y mae menywod a merched yn eu hwynebu, a hynny o safbwynt y dioddefwr.
Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at brofiadau bywyd menywod a merched ledled De Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog dioddefwyr i gysylltu, annog y broses o nodi arwyddion a rhoi gwybod amdanynt.
Mae Gweld Fi yn rhannu straeon am drais neu gam-drin domestig, ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, trais rhywiol, bygwth, stelcio ac aflonyddu, chwibanu, pornograffi dial neu gyffwrdd digroeso, a hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog pawb i wrthwynebu pob math o gam-drin, a dwyn y cyflawnwyr i gyfrif er mwyn i ni allu sicrhau bod gennym gymdeithas lle y mae menywod a merched yn ddiogel.
Gall y troseddau hyn effeithio ar unrhyw un ni waeth beth fo'u hethnigrwydd, oedran, rhywedd, rhywioldeb, neu gefndir cymdeithasol.
Mae menywod a merched yn dioddef achosion o drais a chamdriniaeth i raddau anghymesur, ac maent yn dioddef mwy dan ddwylo partner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu a dieithryn weithiau
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod angen help, cysylltwch â ni neu rywun rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad ag ef, er mwyn i ni allu cymryd camau gweithredu.
“Byddai ei lygaid yn mynd mor dywyll, byddai'n fy sarhau, fel bod modd iddo gael ei ffordd, a fi fyddai ar fai am bopeth.”
Cafodd Amara ei cham-drin yn gorfforol ac yn feddyliol gan ei phartner ar y pryd, i'r fath raddau nad oedd hi'n sylweddoli mai camdriniaeth ydoedd tan i flynyddoedd fynd heibio.
Nid yw pob achos o gam-drin yn gorfforol nac yn weladwy, cam-drin domestig yw ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol.
“Y cyfan roeddwn i am ei wneud oedd sgrechian ‘HELPWCH FI’.”
Yn gyhoeddus, disgrifiwyd partner Becky fel “partner gwych”, ond y tu ôl i ddrysau caeedig, cafodd Becky ei cham-drin yn emosiynol ac yn gorfforol ganddo.
Camdriniaeth gorfforol ac emosiynol yw cam-drin domestig: mae un achos yn unig yn cyfrif.
“Bu'm rhaid i'm merch ddweud ‘Mae Dadi fi wedi bwrw Mami fi‘ wrth y swyddog trin galwadau 999 pan ffoniodd am ambiwlans i mi.”
Roedd Claire yn cael ei cham-drin yn gorfforol ac yn emosiynol gan ei phartner ar y pryd.
Nid yw cam-drin domestig byth yn iawn. Nid chi sydd ar fai.
“Mewn chwinc, newidiodd ei bersonoliaeth yn llwyr a dechreuodd fwrw fi yn fy wyneb.
“Rhwygodd fy nghlustdlysau allan a chefais lygad ddu, waedlyd.
“Roedd yn hollol ofnadwy.”
Mae un achos yn unig yn cyfrif fel cam-drin. Roedd Daisy* yn dioddef camdriniaeth gorfforol ac emosiynol yn ei chydberthynas gan ei phartner ar y pryd. Roedd ei ymddygiad yn peri iddi feddwl mai hi oedd ar fai, ac y dylai fod yn gariad gwell.
Nid chi sydd ar fai, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
*Nid eu henw go iawn. Rydym wedi gweithio gyda menywod a merched ledled De Cymru i ddatblygu'r ymgyrch hon. Rydym wedi cuddio eu hunaniaethau er eu diogelwch nhw.
Mae canllawiau ar sut i roi gwybod am gam-drin domestig i'w gweld yma: Sut i riportio cam-drin domestig | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sut i roi gwybod am achos o dreisio, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall yma: Sut i riportio treisio, ymosodiad rhywiol neu droseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Ond os nad ydych yn siŵr a ydych yn barod i roi gwybod am beth ddigwyddodd i chi, os nad ydych am siarad â ni, neu os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, mae llawer o bobl a all helpu.
Chi sy'n rheoli, a chi sy'n cael dewis pwy i siarad â nhw a pha help a gewch.
Gallwch siarad â'r bobl a'r sefydliadau hyn yn breifat ac yn gyfrinachol, ac ni fyddant yn rhannu unrhyw beth â ni, oni bai eu bod yn meddwl bod rhywun mewn perygl difrifol.
I gael sefydliadau cymorth i ddioddefwyr Trais yn erbyn Menywod a Merched, cliciwch yma.
I gael cymorth i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol, cliciwch yma.
I gael cymorth i ddioddefwyr stelcio ac aflonyddu, cliciwch yma.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Joanna Maal:
"Mae trais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.
“Rydym am i'r holl fenywod a merched sy'n byw, yn gweithio, yn cymdeithasu neu'n astudio yn Ne Cymru fod yn ddiogel, ond hefyd i deimlo'n ddiogel, boed hynny mewn mannau cyhoeddus, gartref neu ar-lein.
“Dylai menywod a merched allu byw yn hyderus, heb deimlo ofn a heb i unrhyw un eu bygwth nac aflonyddu arnynt.
“Datblygwyd ein hymgyrch newydd, Gweld Fi, i dynnu sylw at y materion, i rannu gwybodaeth gyda'n cymunedau, i annog menywod a merched i roi gwybod am ymddygiadau ymosodol neu gael cymorth amdanynt ac annog gwylwyr i dynnu sylw at ymddygiadau ymosodol a'u herio. Ac yn y pen draw, lleihau achosion o drais, aflonyddu a chamdriniaeth.”
South Wales Police and Crime Commissioner Emma Wools said:
“Tackling violence against women and girls remains a key priority of mine, and while some progress has been made across South Wales Police force area towards improving our collective response, clearly, there is a long way to go.
“The voices of brave victims and survivors, sharing their experiences are crucial for us all to understand how the impact of all forms of VAWG restricts freedom and liberty and erodes away at self-esteem and confidence.
“I hope that the See Me campaign raises awareness through the sharing of experiences and connects with other victims and survivors who need our help. including those who are marginalised and have additional barriers to accessing support.
“I’d like to offer my sincere thanks to those survivors who have shared their voice to develop this campaign to raise awareness and encourage others seek support.
“I hope this campaign will encourage and strengthen our collective awareness and responses to the needs of women and girls from all communities when they seek the support and guidance.”
Mae Heddlu De Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau newydd fel rhan o'i ymrwymiad hirsefydlog i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. I gael rhestr o enghreifftiau, cliciwch yma.
Effeithir yn anghymesur ar fenywod yn sgil trais a chamdriniaeth. Mae'r profiad hwn o aflonyddu a cham-drin yn rhy gyffredin o lawer. Mae llawer wedi cael profiad o ymddygiadau problematig rywbryd. Mae rhai wedi cael eu bygwth, eu rheoli neu eu gorfodi – sy'n gwneud iddynt deimlo'n agored i niwed ac yn anniogel.
Boed hyn drwy chwibanu arnynt yn y stryd, cael rhywun yn syllu arnynt ar y bws, yn cydio ynddynt ar noson allan, yn anfon lluniau noeth annymunol ar-lein neu os partner yn ei reoli yn agos. Ni ddylai neb fyw mewn ofn o'r math hwn o gam-drin neu aflonyddu.
Term ymbarél yw trais yn erbyn menywod a merched a ddefnyddir i gwmpasu amrywiaeth eang o achosion o gam-drin yn erbyn menywod a merched fel lladdiad domestig, cam-drin domestig, ymosodiad rhywiol, camdriniaeth a brofwyd pan yn blentyn, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod ac aflonyddu yn y gwaith ac mewn bywyd cyhoeddus.
Er bod dynion a bechgyn hefyd yn dioddef o lawer o'r mathau hyn o gamdriniaeth, maent yn effeithio ar fenywod a merched i raddau anghymesur. Fodd bynnag, rydym yn trin pob adroddiad o gam-drin domestig yn yr un ffordd. Rydym yma i ymdrin â'r gyfraith a sicrhau y caiff ei dilyn.
Beth yw camdriniaeth ddomestig ddigidol a sut i gael help
Canfod a oes gan rywun gofnod o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Os nad ydych am i rywun wybod pa wefannau rydych chi wedi ymweld â nhw, gallwch ddod o hyd i gyngor ar Sut i guddio’r ymweliad â’r dudalen hon o’ch hanes ar y we.