Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os oes plentyn rydych chi’n ei adnabod yn cael ei gam-drin, dylech fynd ati i wybod sut i riportio achos posib o gam-drin plant.
Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMS brys.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw’r cynllun a phwy all wneud cais |
2. Sut i wneud cais |
3. Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais |
4. Gwnewch gais ar-lein |
Mae’r Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw gyda Phlant (CSODS) yn gadael i chi ofyn yn ffurfiol i’r heddlu os oes rhywun sydd â chysylltiad â phlentyn neu blant:
Nid yw’n ddeddf, ond mae’n cael ei galw’n ‘Gyfraith Sarah’ weithiau. Mae’n rhoi arweiniad ar sut y gallwch ofyn i ni ddefnyddio pwerau presennol yr heddlu i rannu gwybodaeth am droseddwyr rhyw.
Os ydych chi’n poeni am ymddygiad rhywun tuag at blentyn, neu ynglŷn â rhywbeth yr ydych wedi’i weld, ei glywed neu rywbeth a ddywedwyd wrthych, gallwch ddefnyddio Cyfraith Sarah i ganfod a yw’r unigolyn dan sylw yn peri risg.
Mae’n rhaid i chi wneud cais am wybodaeth ynglŷn ag unigolyn penodol a phlentyn neu blant penodol y mae’r unigolyn dan sylw yn treulio amser gyda nhw. Ni allwch wneud cais am wybodaeth gyffredinol ynglŷn â throseddwyr rhyw yn erbyn plant.
Gall unrhyw un sy’n poeni am ymddygiad rhywun tuag at blentyn wneud cais, ac nid rhieni’r plentyn yn unig. Mae hyn yn cynnwys rhywun fel nain/mam-gu neu daid/tad-cu, cymydog neu ffrind.
Waeth pwy sy'n gwneud y cais, os oes gwybodaeth y penderfynwn ei rhannu, byddwn yn dweud wrth bwy bynnag all ddefnyddio'r wybodaeth er mwyn cadw’r plentyn yn ddiogel.
Efallai nad dyma’r person a wnaeth y cais, gallai fod yn rhywun arall (fel rhieni’r plentyn).
Os mai'r person rydych chi'n gofyn amdano yw eich partner a'ch bod yn poeni eich bod mewn perygl o’i herwydd, gallwch ofyn am wybodaeth o dan y Cynllun Datgelu Trais Domestig (sy’n aml yn cael ei alw’n Gyfraith Clare).