Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych yn profi cam-drin domestig, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau cefnogi sy’n deall eich anghenion penodol. Isod fe welwch restr o sefydliadau all eich cynorthwyo.
Ffoniwch rif di-argyfwng heddlu y DU, 101, os ydych angen cefnogaeth neu gyngor gan yr heddlu ac nad yw’n argyfwng. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Cymorth i Fenywod Caerdydd
Helpu menywod yn y brifddinas sy’n dioddef cam-drin.
Merthyr Ddiogelach
Mae’n cynnwys cymorth ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig.
Uned Diogelwch Pontypridd
Mae’n cynnwys Prosiect Rhyddid, sy’n cynorthwyo menywod i gael rhyddid rhag rheolaeth a chamdriniaeth.
Atal Y Fro
Cymorth ar gyfer dioddefwyr ym Mro Morgannwg.
Byw Heb Ofn
Llinell gymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig yng Nghymru.
Cymru Ddiogelach
Elusen annibynnol sydd â’r genhadaeth i gefnogi, amddiffyn a grymuso grwpiau o bobl sydd yn aml yn anweledig mewn cymdeithas.
Cymorth i Fenywod Cymru
Helpu menywod sy’n ddioddefwyr bob math o gamdriniaeth a cham-fanteisio.
BAWSO
Cymorth ar gyfer pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Gallwch gael cyngor am gam-drin domestig, priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod, trais ar sail anrhydedd, masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern.
Prosiect Dyn Cymru Ddiogelach
Gweithio ledled Cymru i gefnogi dynion sy’n profi cam-drin domestig.
Llamau
Cymorth ar gyfer menywod a phobl ifanc digartref sy’n ffoi rhag bywydau treisgar.
SafeLives.org.uk
Yn darparu cymorth ac arweiniad ynghylch camdriniaeth ddomestig.
Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig
Llinell gymorth 24-awr, canllawiau a chymorth am ddim i ddioddefwyr.
Canolfan Genedlaethol ar gyfer Trais Domestig
Mae’n darparu gwasanaeth am ddim sy’n gadael i unrhyw un sydd wedi dioddef, neu wedi cael ei fygwth gan gam-drin domestig wneud cais am waharddeb frys gan y llys.
Cymorth i Ddioddefwyr
Cymorth cyfrinachol am ddim i ddioddefwyr troseddau, tystion, eu teulu a'u ffrindiau gyda sgwrs fyw 24-awr a llinell gymorth ar gael.
Llinell Gymorth Trais Domestig Cymorth i Fenywod
Llinell gymorth genedlaethol 24-awr am ddim a gynhelir gan Cymorth i Fenywod a Refuge.
Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcian
Arweiniad ynglŷn â’r gyfraith, sut i riportio stelcian, casglu tystiolaeth, aros yn ddiogel a lleihau’r perygl.
Llinell gymorth frys Shelter
Cyngor i'r rhai sy'n cael trafferth gyda thai gwael neu ddigartrefedd.
Karma Nirvana
Llinell gymorth gyfrinachol sy’n darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol a chyngor i ddioddefwyr a goroeswyr priodas dan orfod a/neu drais ar sail anrhydedd.
Uned Priodas dan Orfod
Cysylltwch â’r Uned Priodas dan Orfod os ydych yn ceisio atal priodas dan orfod rhag digwydd neu os oes angen cymorth arnoch i adael priodas yr ydych wedi cael eich gorfodi iddi.
FLOWS (Finding Legal Options for Women Survivors)
Gwasanaeth cefnogaeth gyfreithiol er mwyn helpu i ddiogelu menywod rhag cam-drin domestig.
Prosiect Sharan
Darparu cefnogaeth i fenywod agored i niwed, yn arbennig rhai o darddiad De Asia, sydd wedi cael eu diarddel gan eu teuluoedd.
Llinell Gymorth Dynion
Llinell gymorth gyfrinachol ar gyfer dynion sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig.
Respect.uk
Cyngor a chefnogaeth ar gyfer y rheini sy’n ei chael hi’n anodd rheoli eu hymddygiad, dioddefwyr trais domestig sy’n ddynion, a phobl ifanc sy’n defnyddio trais ac yn cam-drin mewn perthynas agos.
ManKind Initiative
Llinell gymorth gyfrinachol ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig a thrais domestig sy’n ddynion.
Hourglass
Mae llinell gymorth gyfrinachol Hourglass yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sy’n poeni am niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio ar berson hŷn.
Galop
Cefnogaeth emosiynol ac ymarferol ar gyfer pobl LHDT+.
Sign Health
Cymorth a chyngor i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw.