Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Camdriniaeth ddigidol yw pan fydd rhywun yn monitro, yn stelcian, yn aflonyddu, yn bygwth, yn rheoli neu'n dynwared person arall gan ddefnyddio technoleg.
Gallai hyn olygu stelcian drwy'r cyfryngau cymdeithasol, aflonyddu drwy neges destun neu fychanu rhywun drwy bostio lluniau neu fideos er enghraifft.
Gall camdriniaeth ddigidol ddigwydd i unrhyw un ond mae'n digwydd amlaf ochr yn ochr â mathau eraill o gamdriniaeth ddomestig.
Nid eich bai chi yw hi os ydych chi’n cael eich cam-drin: mae gennych chi hawl i breifatrwydd ar-lein ac all-lein.
Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i gadw’ch hun yn ddiogel rhag camdriniaeth ddigidol, ond dylech bob amser wneud yr hyn sy'n ddiogel i chi.
Amddiffynnwch eich holl gyfrifon ar-lein gyda chyfrinair cryf. Os yw'r person sy'n eich cam-drin yn gwybod unrhyw un o'ch cyfrineiriau, newidiwch nhw ar unwaith. Dewiswch gyfrinair sy'n cynnwys rhifau a chymeriadau arbennig. Rhagor o wybodaeth am gyfrineiriau cryf.
Gwiriwch y gosodiadau preifatrwydd ar eich holl gyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol gyngor ar sut i wirio’ch gosodiadau ar yr holl brif lwyfannau yn y cyfryngau cymdeithasol (Facebook, X.com, YouTube, Instagram, LinkedIn, Snapchat a TikTok).
Amddiffynnwch eich ffôn, eich tabled a’ch cyfrifiaduron drwy ddefnyddio cyfrinair neu PIN cryf, neu defnyddiwch gyfuniad o'r ddau.
Gwnewch yn siŵr bod meddalwedd wrth-feirws a mur cadarn wedi'u gosod ar eich dyfeisiau a'u bod yn gyfredol. Mae hyn yn canfod ysbïwedd a allai fod wedi'i gosod ar eich ffôn ac unrhyw ffeiliau nad yw’n ddiogel eu hagor. Dysgwch fwy gan Get Safe Online.
Gallwch gael eich tracio'n hawdd os yw eich lleoliad wedi’i droi ymlaen ar eich ffôn neu’ch dyfeisiau eraill. Mae rhai apiau yn troi gwasanaethau lleoliad ymlaen yn awtomatig, ond gallwch eu diffodd drwy fynd i mewn i'ch gosodiadau:
Os nad ydych am i rywun wybod pa wefannau rydych chi wedi ymweld â nhw, gallwch weld cyngor ar Sut i guddio’r ymweliad hwn o’ch hanes gwe.
Newidiwch y cyfrinair a gawsoch chi i ddechrau i gyfrinair cryfach.
Osgowch ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a bancio ar-lein wrth ddefnyddio Wi-Fi cyhoeddus gan fod hwnnw’n aml yn anniogel ac fe allai’ch manylion gael eu dwyn. I gadw'n ddiogel wrth ddefnyddio Wi-Fi cyhoeddus, cysylltwch â rhwydwaith preifat rhithwir (VPN).
Os ydych yn poeni am gael eich cloi allan o'ch cyfrifon banc neu’n poeni y gallai rhywun gyfyngu ar eich mynediad at eich arian, siaradwch â rhywun yn eich banc. Gall rhai banciau dynnu sylw at gyfrif a allai fod mewn perygl.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n eu hadnabod, yn cael eich cam-drin mae yna wahanol ffyrdd ichi riportio'r peth i’r heddlu.
Oes rhywun mewn perygl uniongyrchol? Oes arnoch chi angen cymorth ar unwaith? Os felly, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych nam ar y clyw neu'r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMS brys.
Os nad yw'n argyfwng, gallwch riportio camdriniaeth ddomestig ddigidol:
Cyber Aware
Cyngor ar amddiffyn eich hun ar-lein
Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Helpu i wella’ch diogelwch ar-lein
Refuge
Cyngor i fenywod a phlant yn erbyn trais domestig
Llinell Gymorth Pornograffi Dial
Gwybodaeth a help i dynnu delweddau ar-lein
I gael rhestr o sefydliadau cenedlaethol a lleol, ewch i sefydliadau cymorth camdriniaeth ddomestig.