Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall riportio treisio, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall fel dinoethi anweddus neu uwchsbecian beri braw.
Rydyn ni yma i'ch cefnogi p'un a ydych chi’n barod i riportio’r peth i ni neu y byddai'n well gennych siarad â rhywun arall.
Os hoffech chi siarad ynglŷn â hyn cyn penderfynu a ydych chi am riportio’r peth i ni, gallwch siarad â Chanolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC), gwasanaeth Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA) neu wasanaeth cymorth arall.
Sefydliadau cymorth ar gyfer treisio ac ymosodiadau rhywiol
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn barod i riportio’r peth, rydyn ni wedi llunio gwybodaeth a allai’ch helpu i benderfynu ai riportio’r peth yw’r cam cywir i chi.
Os hoffech chi riportio rhywbeth inni ond nad ydych yn awyddus i siarad yn uniongyrchol â ni, gall rhai sefydliadau cymorth ei riportio ar eich rhan.
Does dim rhaid iddyn nhw roi’ch manylion i ni: gallwch ofyn i'r sefydliad beidio â dweud wrthym pwy ydych chi. Gallwn gael rhagor o wybodaeth gennych chi drwy ofyn i'r sefydliad cymorth ofyn cwestiynau i chi ar ein rhan.
Sefydliadau cymorth ar gyfer treisio ac ymosodiadau rhywiol
Gallwch ddweud rhywbeth wrthym heb ddweud pwy ydych chi neu heb roi’ch manylion inni.
Gall riportio fel hyn ein helpu i atal pobl rhag cyflawni troseddau yn y dyfodol.
Os na fyddwch chi’n rhoi eich manylion i ni, efallai na fyddwn yn gallu ymchwilio'n llawn, am ein bod yn methu cysylltu â chi i ofyn rhagor o gwestiynau i chi. Ond gallwch bob amser roi eich manylion inni yn nes ymlaen os byddwch yn newid eich meddwl.
Os na fyddwch chi’n rhoi eich manylion i ni, dim ond os ydyn ni’n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl y byddwn yn ceisio cysylltu â chi.
Gallwch riportio trosedd yn ddienw hefyd drwy wefan Crimestoppers neu drwy eu ffonio nhw ar 0800 555 111.
Gallwch riportio rhywbeth i ni a rhoi’ch manylion i ni ond penderfynu o hyd i beidio â mynd drwy ymchwiliad llawn gan yr heddlu neu erlyniad yn y llys. Ar ôl ichi riportio trosedd, gallwch dynnu’ch cwyn yn ôl unrhyw bryd.
Beth bynnag benderfynwch chi, mae unrhyw wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi dal yn gallu cael ei defnyddio i nodi patrymau troseddu, lleoliadau neu droseddwyr, yn enwedig os ydych chi’n teimlo y gallwch roi datganiad ffurfiol i ni.
Gallwch riportio treisio, ymosodiad rhywiol neu droseddau rhywiol eraill i ni ar ran rhywun arall rydych chi'n ei adnabod, neu fel tyst hyd yn oed os nad ydych chi'n adnabod y dioddefwr.
Os byddwch yn riportio rhywbeth ar ran rhywun arall, byddwn yn gofyn i chi ddweud:
Gallwch chi ddweud wrthym am rywbeth sydd wedi digwydd i rywun hyd yn oed os nad ydyn nhw na chithau am roi eu manylion i ni.
Gallwch riportio ymosodiad rhywiol neu dreisio a ddigwyddodd ar unrhyw adeg i ni, hyd yn oed os oedd hyn fisoedd, blynyddoedd neu ddegawdau yn ôl. Rydym yn cymryd pob adroddiad o ddifrif, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio.
Sut i riportio treisio neu ymosodiad rhywiol a ddigwyddodd beth amser yn ôl
Os ydych chi neu rywun arall wedi cael eich anafu, mewn perygl uniongyrchol neu os oes arnoch chi angen cymorth ar unwaith, galwch 999 nawr.
Os oes gennych chi nam ar y clyw neu'r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth neges testun brys.
Os ydych chi mewn perygl ond yn methu siarad ar y ffôn, dylech chi alw 999, o hyd, yna dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.
Gallwch chi riportio treisio, ymosodiad rhywiol neu droseddau rhywiol eraill ar-lein.
Mae’n rhif ffôn cenedlaethol pan nad oes argyfwng yn cael ei staffio 24 awr y dydd. Os nad oes argyfwng, galwch ni ar 101 a riportiwch beth ddigwyddodd neu gofynnwch am gyngor.
Os hoffech chi siarad â swyddog yn bersonol, gallwn ddarparu amgylchedd diogel a chyffyrddus yn unrhyw un o'n gorsafoedd heddlu.
Os oes arnoch chi angen cyfieithydd, gallwn ddarparu rhywun dros y ffôn i ddechrau ac yn bersonol yn nes ymlaen.