Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ein blaenoriaeth gyntaf yw eich diogelu chi ac unrhyw blant sydd gennych. Os yw’r sefyllfa yn un o argyfwng bydd swyddog yn mynychu ac, os yw’n addas, yn angenrheidiol ac yn gyfreithiol i wneud hynny, arestio’r tramgwyddwr, a chymryd camau i’ch diogelu rhag rhagor o niwed – gan roi amser i chi feddwl.
Os ydych chi'n dioddef camdriniaeth ddomestig, neu'n adnabod rhywun sydd, a bod hyn yn digwydd nawr neu os ydych chi'n meddwl y gallai bywyd rhywun fod mewn perygl, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMS brys.
Ffyrdd eraill i riportio:
Bydd ein swyddogion yn gwneud yn siŵr y cewch eich trin â pharch ac yn siarad â chi mewn man oddi wrth y person sy’n gyfrifol am y cam-drin. Os ydych chi wedi cael eich anafu’n gorfforol, mae’n bwysig bod meddyg yn archwilio eich anafiadau. Byddwn yn trefnu gofal meddygol, os oes angen.
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn eich arwain drwy’r ymchwiliad cyfan. Ein nod yw cysylltu â chi o fewn 24 awr wedi i chi riportio’r drosedd a rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd.
Mewn nifer o achosion, bydd dioddefwyr cam-drin domestig angen opsiynau ar gyfer llety arall dros dro neu yn y tymor hwy. Efallai y bydd angen gwaharddeb arnoch er mwyn rhwystro’r tramgwyddwr rhag dod yn agos atoch, neu efallai y bydd angen cwnsela neu gefnogaeth arnoch.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chynghorwyr sydd wedi’u hyfforddi’n dda, sydd ddim yn aelodau’r heddlu, a fydd yn gallu eich cynorthwyo gydag ôl-ofal i chi a’ch teulu.
Os oes angen i chi fynychu’r llys am unrhyw reswm mae gwasanaethau cefnogi hefyd ar gael fel nad ydych yn teimlo wedi eich llethu neu’ch dieithrio gan y broses gyfreithiol.
Os ydych wedi dioddef trais domestig, gallwch hefyd wneud cais am waharddeb i’ch diogelu chi neu’ch plentyn rhag niwed neu rhag cael eich bygwth ('gorchymyn peidio ag ymyrryd'), neu waharddeb i benderfynu pwy all fyw yn y cartref teuluol ('gorchymyn meddiannaeth').
Gall person a enwir yn y gorchymyn llys gael ei arestio os bydd yn ei dorri.