Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae penaethiaid yr heddlu wedi amlinellu graddfa'r trais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru a Lloegr mewn datganiad plismona cenedlaethol, gan gyfuno data a gwaith dadansoddi cynhwysfawr.
Yn sgil graddfa epidemig troseddau, mae arweinwyr yr heddlu yn galw am ddull system gyfan sy'n dod â phartneriaid cyfiawnder troseddol, cyrff llywodraethol a diwydiant ynghyd, mewn partneriaeth newydd sy'n ceisio lleihau graddfa ac effaith trais yn erbyn menywod a merched.
Darllenwch fwy gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yma: https://news.npcc.police.uk/releases/call-to-action-as-violence-against-women-and-girls-epidemic-deepens-1
Ar ôl cyhoeddi'r Datganiad Plismona Cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod a merched, dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Joanna Maal said:
“Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel, ble bynnag y maent, ac ni ddylai neb ddioddef trais, aflonyddu na bygwth.
“Mae mynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ers tro, ac rydym yn cydnabod bod mwy o bryder nag erioed ynghylch diogelwch personol a thrais.
“Fel heddlu, mae gennym record ardderchog o weithio mewn partneriaeth. Rydym yn targedu adnoddau er mwyn sicrhau llwybrau clir i ddiogelwch ar gyfer dioddefwyr, cefnogi a grymuso goroeswyr a buddsoddi mewn ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol, gan ymdrin â'r agweddau a'r ymddygiadau niweidiol sy'n arwain at drais a chamdriniaeth.
“Yn ogystal â phatrolau amlwg a rhai mewn dillad arferol, rydym yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o fentrau i fynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth gan gynnwys StreetSafe, Bws Diogelwch Caerdydd a Man Cymorth Abertawe.
“Fel rhan o strategaeth Llywodraeth y DU ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, rydym yn rhan o adnodd newydd ar-lein a elwir yn StreetSafe, sy'n galluogi pobl i nodi mannau lle maent wedi teimlo'n anniogel a pham mae'r lleoliad hwnnw wedi gwneud iddynt deimlo felly.
“Gan ddefnyddio'r wybodaeth honno, gallwn gyfarwyddo ein patrolau a mynd ati gyda'n partneriaid i wella seilwaith megis goleuadau a systemau teledu cylch cyfyng.
“Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid fel yr awdurdod lleol, prifysgolion a Bugeiliaid y Stryd er mwyn parhau i wneud De Cymru'n lle diogel i fenywod a merched a sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel wrth fynd allan a gwneud be y mynnont.”
Mae Heddlu De Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau newydd fel rhan o'i ymrwymiad hirsefydlog i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Dyma rai enghreifftiau:
Mae Bysiau Diogelwch Caerdydd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched
Ers mis Medi 2021, mae Bysiau Diogelwch Caerdydd wedi diogelu mwy na 2,850 o bobl agored i niwed ar strydoedd Caerdydd.
Roedd y fenter yn enillydd rhanbarthol yng nghategori Mannau Diogel digwyddiad cydnabod trais yn erbyn menywod a merched Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a'r Coleg Plismona.
Cafwyd dros 140 o geisiadau wedi'u beirniadu gan gynrychiolwyr o elusennau megis SafeLives ac Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh.
Rydym yn rhoi swyddogion ychwanegol yng nghanol dinasoedd ar nosweithiau Gwener a Sadwrn ac ar ddyddiadau allweddol eraill, er enghraifft yn ystod cyfnod y Glas a digwyddiadau mawr, i sicrhau bod gwelededd uwch a sicrwydd i bobl sy'n mwynhau'r economi liw nos.
Rydym hefyd yn defnyddio swyddogion mewn dillad plaen i batrolio canol dinasoedd i atal trais yn erbyn menywod a merched, drwy dargedu unigolion amheus a'r rhai sy'n arddangos ymddygiad rhywiol digroeso.
Fel rhan o strategaeth Llywodraeth y DU ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, rydym yn rhan o adnodd newydd ar-lein a elwir yn StreetSafe, sy'n galluogi pobl i nodi mannau lle maent wedi teimlo'n anniogel a pham mae'r lleoliad hwnnw wedi gwneud iddynt deimlo felly. Yna rydym yn defnnyddio'r wybodaeth hon i lywio ein strategaethau defnyddio a, gyda phartneriaid, gwella seilwaith megis goleuadau a systemau teledu cylch cyfyng.
Cafodd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd wobr o £432,000 gan gyllid Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref. Mae'r arian wedi cael ei ddefnyddio i brynu 20 o gamerâu teledu cylch cyfyng, gosod gwell goleuadau LED a gwneud gwelliannau diogelwch eraill.
Mae yna rwydwaith teledu cylch cyfyng helaeth yng nghanol dinas Caerdydd, sy'n cael ei fonitro 24/7 ac mae gan y staff ystafell camera gysylltiad uniongyrchol â'r swyddogion ar grwydr. Er enghraifft, os bydd gweithredwr deunyddiau teledu cylch cyfyng yn nodi ymddygiad troseddol neu amheus, byddant yn rhybuddio swyddogion ar grwydr.
Ar ben hynny, rydym wedi gweithio gyda Chyngor Caerdydd a thîm rheoli Park Bute i asesu Park Bute o ran pa fesurau ychwanegol y gellid eu cyflwyno i helpu i atal a chanfod troseddau, ac o ganlyniad hynny, bu gwelliannau o ran teledu cylch cyfyng.
Hefyd, mae Heddlu De Cymru wedi rhoi hyfforddiant i staff mewn safleoedd trwyddedig yng nghanol y ddinas i'w helpu i adnabod a diogelu pobl sy'n agored i niwed ac rydym yn gweld enghreifftiau lle mae'r hyfforddiant hwn wedi talu ar ei ganfed yn rheolaidd.
Os bydd achosion yn digwydd, byddwn yn eu rhybuddio ac yn gofyn iddynt fod yn arbennig o wyliadwrus.
Rydym yn cymryd adroddiadau ar sbeicio o ddifrif ac yn annog unrhyw un sy'n credu eu bod wedi dioddef trosedd sbeicio mewn unrhyw ffordd i gysylltu â ni.
Heddlu De Cymru oedd heddlu peilot Ymgyrch Soteria, sydd â'r nod i drosglwyddo'r ffordd y caiff troseddau teisio a throseddau rhywiol difrifol eu hymchwilio. Mae hyn bellach wedi cael ei gyflwyno ar draws y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.
Er bod angen gwneud mwy o waith o hyd, mae Heddlu De Cymru ymhlith yr heddluoedd sydd â'r graddau canlyniadau cadarnhaol uchaf ar gyfer achosion drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr.
Gwnaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru sicrhau cyllid ychwanegol o £749,652.85 i ddarparu cyfres o fentrau sydd â'r nod o gadw menywod yn ddiogel yng Nghaerdydd.
Caiff yr arian ei ddefnyddio i gyflwyno dulliau newydd o fynd i'r afael â diogelwch menywod, gan gynnwys:
Daw llawer o achosion o drais yn erbyn menywod a merched ar ffurf cam-drin a thrais domestig.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Clayton Ritchie, arweinydd yr heddlu ar gam-drin a thrais domestig:
“Mae mynd i'r afael â cham-drin a thrais domestig yn flaenoriaeth hirsefydlog i Heddlu De Cymru, a byddwn yn mynd ar ôl y rhai sy'n peri gofid i'w dioddefwyr yn ddiflino.
“Gall y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig fod yn sicr y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi a'u hamddiffyn rhag niwed.
“Mae angen gwneud gwaith o hyd i wella'r profiad a'r gwasanaeth y mae dioddefwyr yn eu cael pan fyddant yn rhoi gwybod am achosion o gam-drin. Mae achosion cam-drin domestig yn rhai o'r troseddau mwyaf cymhleth y mae'r heddlu yn ymdrin â nhw ac rydym wedi gweithio'n galed i godi hyder dioddefwyr i roi gwybod amdanynt. Rwyf am roi sicrwydd i ddioddefwyr o bob math o gam-drin domestig sy'n rhoi gwybod amdano y byddwn yn gwrando arnynt, yn eu trin â pharch a thosturi a byddwn yn cynnal ymchwiliadau trylwyr.
“Rydyn yn gwybod ac yn deall y gallai fod llawer o bobl yn ofni rhoi gwybod am eu partner sy'n cam-drin, a byddwn yn defnyddio pob math o dystiolaeth, gan gynnwys fideo a wisgir ar gorff swyddogion yr heddlu a datganiadau gan swyddogion yr heddlu i gefnogi erlyniadau.
“Er nad yw'r maes plismona ar ei ben ei hun yn gallu datrys achosion o gam-drin domestig, rhaid i ni weithio gyda meysydd eraill fel addysg, y gwasanaeth prawf, iechyd, gofal cymdeithasol a thai i sicrhau y caiff cymorth ei gyfuno a bod y gwaith ymyrryd yn effeithiol.
“Fel heddlu, rydym wedi buddsoddi i wella ein hymateb i achosion o gam-drin a thrais domestig, sy'n cynnwys hyfforddiant gwell ar gyfer swyddogion, gwell ymwybyddiaeth o risg ac asesu risg a chydweithredu gwell â'n partneriaid cyfiawnder troseddol i roi cyfiawnder i oroeswyr cam-drin domestig."