Dyn o Abertawe yn cael dedfryd hir o garchar ar ôl treisio ac ymosod
Cafwyd Tristan Williams, 22 oed, o ganol dinas Abertawe, a blediodd yn ddieuog i bob cyhuddiad, yn euog yn y pen draw o ddau gyhuddiad o dreisio, un cyhuddiad o ymosod drwy guro ac un cyhuddiad o voyeuriaeth ar ôl iddo gofnodi gweithred rywiol heb ganiatâd y dioddefwr.