Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Rhoddwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) am ddwy flynedd i Phillip James yn Llys Ynadon Caerdydd
Yn dilyn ei euogfarnau diweddar am chwe throsedd o ddwyn o siopau, rhoddwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) am ddwy flynedd i Phillip James yn Llys Ynadon Caerdydd ar 24 Mehefin.
Cyfaddefodd James, 58, ei fod wedi dwyn siocled, glanedydd a chig, o'r siop Spar, Heol Abergele, Trowbridge.
Hefyd cafodd ei garcharu am bedwar mis.
Fel rhan o'r CBO, rhaid i James adael unrhyw siop adwerthu neu adeilad cyhoeddus pan fo aelod o staff, swyddog diogelwch, swyddog yr heddlu neu swyddog y cyngor yn gofyn iddo wneud hynny.
Rhaid iddo beidio â mynd i mewn i unrhyw siop Co-op, Spar neu Tesco Express yng Nghaerdydd am y ddwy flynedd nesaf.
Nod y CBO yw atal troseddu ac amddiffyn y gymuned, gweithwyr lleol, ac aelodau'r cyhoedd rhag gofid a tharfu parhaus a niwed posibl.
Mae Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos gyda manwerthwyr a busnesau i'w hamddiffyn rhag troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan unigolion fel Phillip James.
Gall dwyn o siopau gael effaith ddinistriol ar weithwyr siop a manwerthwyr.
Mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â lladrata o siopau a chefnogi'r diwydiant.
Dylid rhoi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau ac achosion o dorri gorchmynion.
💻Riportiwch ar-lein drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.