Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Heddlu De Cymru yn falch o gyhoeddi ymddeoliad y Ci Heddlu (PD) Hera, ci heddlu gweithredol eithriadol sydd wedi bod wrthi am wyth mlynedd o wasanaeth nodedig i gadw cymunedau'n ddiogel.
Mae Hera'n gi bugail Iseldiraidd yn 10 oed. Cafodd ei mewnforio'n wreiddiol o'r Iseldiroedd a daeth yn un o'r cŵn bugail Iseldiraidd benywaidd cyntaf i wasanaethu i Heddlu De Cymru. Wedi'i henwi ar ôl 'Brenhines' Olympaidd y Duwiau ym mytholeg Roeg, mae hi wedi bod yn driw i'w henw drwy ei chryfder, ei ffyddlondeb a'i hymroddiad diwyro.
Cydnabyddir PD Hera ar draws y llu am ei greddf gadarn a'i phresenoldeb awdurdodol, ac mae wedi chwarae rhan hanfodol wrth ddod o hyd i nifer o droseddwyr, gan gynnwys lladron, delwyr cyffuriau a throseddwyr treisgar. Mae hi hefyd wedi bod yn allweddol wrth ddod o hyd i bobl sydd ar goll a phobl agored i niwed ledled de Cymru.
Mae un digwyddiad arbennig o ryfeddol yn tynnu sylw at ddoethineb eithriadol Hera. Wrth helpu swyddogion ar ôl erlid, aeth tramgwyddwr i mewn i afon a dechreuodd gael trafferthion yn y dŵr oer. Gwnaeth Hera ei olrhain yn y tywyllwch a helpu swyddogion i ddod ag ef yn ddiogel i'r lan - gan ddangos ei gallu gweithredol yn ogystal â'i dealltwriaeth reddfol o pryd i amddiffyn bywyd.
Meddai ei thrafodwr, y Rhingyll Joe McElroy:
"Mae Hera wedi bod yn gi anhygoel ers y diwrnod y cafodd ei neilltuo i mi. Mae hi wedi dod o hyd i droseddwyr di-ri na fyddant wedi cael eu darganfod hebddi hi, ond mae hi hefyd wedi dangos doethineb anhygoel ar yr adegau hollbwysig, fel helpu i achub bywyd. Mae hi'n wirioneddol unigryw."
Mae cyflawniadau Hera wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol. Mae hi'n un o nifer bach o gŵn heddlu yn y Deyrnas Unedig i ennill Bathodyn Arian Blue Peter am ei gwasanaeth. Hefyd cafodd yr anrhydedd o gwrdd â'i Fawrhydi y Brenin Charles III - a fu'n Dywysog Cymru ar y pryd - yn ystod dathliadau pen-blwydd Heddlu De Cymru yn 50 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Gorffennaf 2019, lle derbyniodd ffwdan gan y darpar Frenin mewn modd digynnwrf.


Yn fwy diweddar, ymddangosodd Hera ar y BBC yn hyrwyddo'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Anifeiliaid Gwasanaeth Ymddeoledig (NFRSA), gan helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth y mae'r elusen yn ei ddarparu i anifeiliaid gwasanaeth sydd wedi ymddeol.
Wrth iddi ddechrau ei hymddeoliad haeddiannol, bydd Hera yn aros gyda'r Rhingyll McElroy, gan ymuno â'r ci heddlu ymddeoledig Keiko, sy'n 14 oed. Heb os, bydd hi hefyd yn cadw llygad barcud ar PD Ozzy, yr aelod mwyaf newydd o'r tîm.

Ychwanegodd y Rhingyll McElroy:
"Mae Hera wedi bod yn amddiffynnydd i mi, yn gydweithiwr ac yn ffrind gorau ers bron degawd. Mae hi wedi bod wrth fy ochr drwy bopeth, felly mae'n briodol fy mod i nawr yn ffyddlon iddi hi ac yn gwneud yn siŵr ei bod hi'n mwynhau'r ymddeoliad y mae hi wir yn ei haeddu."
Mae Heddlu De Cymru yn estyn ei ddiolch o galon i PD Hera am ei chyfraniad eithriadol. Ei hetifeddiaeth hi yw dewrder, deallusrwydd a theyrngarwch diwyro.
Joia dy ymddeoliad, PD Hera - mae'n haeddiannol dros ben.