Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Ali Namjo, 36 oed o'r Clas, Abertawe, wedi cael ei ddedfrydu i 16 mlynedd am ymosod yn rhywiol ar blentyn.
Gwadodd Namjo ddau gyhuddiad o ymosod ar blentyn drwy dreiddio ac ymosodiad cyffredin ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mawrth 2026.
Cafodd ei ddedfrydu yn yr un llys ddydd Llun 29 Mehefin.
Mae'r ddedfryd o 16 mlynedd yn cynnwys 15 mlynedd yn y ddalfa a chyfnod estynedig o flwyddyn ar drwydded.
Bydd Namjo hefyd yn droseddwr rhyw cofrestredig am weddill ei oes.
Mewn datganiad am yr effaith arni, disgrifiodd mam y dioddefwr yr effaith y mae troseddau Namjo wedi'i chael arni hi a'i merch
Dywedodd fod ei byd "wedi cael ei chwalu'n deilchion" a bod ei merch wedi mynd o fod yn "ferch fach fywiog, fentrus a hyderus i fod yn gragen yr hyn arferai fod.”
Mewn neges i Namjo, ychwanegodd y fam: “Ni fyddaf yn caniatáu i chi ddifetha eiliad arall o'n bywydau. Er y bydd hyn yn aros gyda ni am weddill ein bywydau, rwy’n mynd i adeiladu bywyd gwych i'm plant.”
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Abbie Williams o Heddlu De Cymru: “Ni fydd unrhyw ddedfryd yn lleddfu'r boen i’r dioddefwyr a’u teuluoedd.
“Ond rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd sylweddol a roddwyd gan y llys yn rhoi’r hyder iddyn nhw ailadeiladu eu bywydau a chyflawni pethau anhygoel.
“Diolch i'w dewrder eithriadol, mae Namjo wedi cael ei ddwyn i gyfrif.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.