Dyn wedi'i garcharu am 24 mlynedd am droseddau rhywiol hanesyddol
Plediodd Peter David Long, 66 oed, yn euog ar 21 Awst 2024 i chwe achos o gyfathrach rywiol gyda merch o dan 13 oed ac 13 o achosion o ymosodiad anweddus. Roedd yr 19 o droseddau yn erbyn pedair merch a oedd rhwng saith a 14 oed ar adeg y troseddau.