Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd ymgyrch genedlaethol yr heddlu i fynd i'r afael â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau ei chynnal eto eleni drwy gydol mis Rhagfyr.
Cynhaliodd swyddogion Heddlu De Cymru 4,923 o brofion yfed a gyrru, sef 56% yn fwy o gymharu â 2023. O blith y profion hynny, roedd 173 o yrwyr dros y terfyn yfed a gyrru.
Cynhaliodd ein swyddogion hefyd 212 o brofion gyrru dan ddylanwad cyffuriau, sef 5% yn fwy na'r llynedd. O blith y profion hynny, roedd 95 o yrwyr dros y terfyn gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Dywedodd Michael Prickett, Arolygydd Plismona'r Ffyrdd:
"Rwy'n falch iawn o'r swyddogion am eu gwaith i dynnu'r gyrwyr hyn oddi ar y strydoedd.
"Yn anffodus, mae llawer o bobl yn parhau i ddewis gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, ac mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau ac unigolion.
"Er bod cyfnod y Nadolig wedi dod i ben, bydd swyddogion yn parhau i fynd ar ôl y rheini sy'n benderfynol o dorri'r gyfraith."
Yn y fideo isod, gallwch weld bod Steven Earls, 32 oed o'r Barri, yn un o'r gyrwyr a gafodd ei stopio gan swyddogion yn ystod yr ymgyrch. Roedd yn gyrru mewn ffordd eratig ar hyd St Cadocs Avenue yn Ninas Powys pan gafodd ei stopio gan swyddogion plismona'r ffyrdd. Dangosodd prawf alcohol ar ochr y ffordd sgôr o 69, sef dwywaith y terfyn yfed a gyrru o 35.
Ddydd Gwener, 3 Ionawr 2025, ymddangosodd Earls gerbron Llys Ynadon Caerdydd lle plediodd yn euog i yfed a gyrru. Cafodd ei wahardd rhag cael trwydded gyrru neu feddu arni am flwyddyn a saith mis. Roedd rhaid iddo dalu costau o £288 hefyd.