Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Heddlu De Cymru alwad ychydig ar ôl 10pm ddydd Llun 10 Chwefror yn nodi bod dyn 28 oed wedi dod i ysbyty ym Merthyr ag anafiadau trywanu.
Cafodd George Miles-Williams, 23 oed o Henffordd, ei gyhuddo o geisio ei lofruddio a chafodd ei gadw yn y ddalfa. Cafodd dwy fenyw o Henffordd, 54 oed a 22 oed, eu harestio ar amheuaeth o helpu troseddwr a chawsant eu rhyddhau ar fechnïaeth er mwyn cynnal ymholiadau pellach.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd James Morris:
"Rwy'n deall bod digwyddiadau fel hyn yn peri gofid i'r cyhoedd, ond hoffwn roi sicrwydd i'r gymuned leol mai digwyddiad unigol penodol oedd hwn, yn ôl pob tebyg, er ei fod yn amlwg wedi bod yn drawmatig iawn i'r dioddefwr, ei deulu a'i ffrindiau.
"Mae Miles-Williams wedi cael ei gyhuddo ac yn cael ei gadw yn y ddalfa. Mae ymchwiliad trylwyr yn parhau er mwyn canfod yn union beth ddigwyddodd y noson honno."