Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Ferthyr Tudful a gafodd ei ddal gyda 40 o becynnau stryd o gocên yn ei ddillad isaf wedi cael ei garcharu.
Roedd swyddogion yn chwilio am Johnny Morgan, 20 oed, pan wnaethant ei weld yn gyrru Volvo coch ar Avenue De Clichy, Merthyr Tudful ar fore 22 Hydref.
Cafodd ei stopio gan y swyddogion a chadarnhaodd negeseuon a gafwyd ar ffôn a oedd yn ei gario ei fod ar y ffordd i ddelio cyffuriau.
Tra roedd y swyddogion yn siarad ag ef, roedd yn cyffwrdd ag ardal ei arffed. Pan wnaethant ofyn iddo a oedd yn cario unrhyw gyffuriau, tynnodd 40 o rolion o gocên allan o'i ddillad isaf.
Datgelodd ddadansoddiadau pellach o dri ffôn symudol a atafaelwyd wrth Morgan ei fod yn anfon negeseuon at 413 o unigolion roedd mewn cysylltiad â nhw yn rheolaidd, yn cynnig crac cocên a ‘flake’ – sef cocên pur iawn, ac yn rhoi cyfarwyddyd i eraill i wneud crac cocên allan o gocên. Datgelodd negeseuon o'i ffonau hefyd ei fod yn mynnu cardiau talu a rhifau PIN gan gwsmeriaid er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei dalu.
Cafodd ei gyhuddo o ymwneud â chyflenwi crac cocên, meddu ar grac cocên gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a chynhyrchu crac cocên.
Plediodd yn euog i bob un o'r 3 trosedd ac ymddangosodd gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ar 10 Ionawr, lle cafodd ei garcharu am 36 mis.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Gareth Jenkins: “Roedd Johnny Morgan yn chwaraewr sylweddol yn y broses o gyflenwi cocên i bobl yn yr ardal. Roedd yn rhoi cyfarwyddyd i bobl wneud crac cocên ac hefyd yn cymryd cardiau banc pobl, a hynny, heb amheuaeth, yn manteisio ar bobl a wnaed yn agored i niwed drwy fod yn gaeth i gyffuriau a dyled cyffuriau.
“Mae'n ddyn ifanc rydym yn credu iddo fod yn delio cyffuriau ers cryn amser. Er bod yr apêl o wneud arian yn gyflym yn rhy ddeniadol i rai, bydd ond yn fater o amser cyn i'w dewisiadau beri hunllef iddynt. Yn 20 oed, bydd Johnny Morgan yn treulio cyfnod sylweddol o amser yn y carchar, sy'n lle priodol iddo.”
Llun uchod: Llun dalfa'r heddlu o Johnny Morgan.