Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Aberhonddu wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o sawl trosedd rhyw yn erbyn plant.
Mae Paul Lewis, dyn 72 oed o Aberhonddu wedi cael ei ddyfarnu'n euog o ddau achos o dreisio, pum achos o ymosodiad anweddus ac un achos o anwedduster garw gyda phlentyn.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Gwener, 14 Chwefror, 2025, yn Llys y Goron Merthyr Tudful i 15 mlynedd yn y carchar, ac mae hefyd wedi cael Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol sy'n ei atal rhag cysylltu ag unrhyw blentyn sydd o dan 16 oed. Bydd yn parhau ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Nicholas Murray:
“Mae Paul Lewis yn unigolyn peryglus a fanteisiodd ar ei ddioddefwr, sy'n blentyn, heb roi unrhyw ystyriaeth i'w llesiant.
“Rwy'n canmol dewrder y dioddefwr yn rhoi gwybod i ni am ei weithredoedd, a oedd yn allweddol wrth helpu i'w ddwyn i gyfrif.
“Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi rhywfaint o gysur i'r dioddefwr a'i deulu, y mae pob un ohonynt wedi bod drwy brofiad dychrynllyd.”
I gael gwybodaeth a chanllaw ategol ar roi gwybod am droseddau rhywiol, gweler yma: Rhoi gwybod am droseddau rhywiol: Gwybodaeth a chanllaw ategol | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
I gael help a chymorth mewn perthynas â threisio, ymosodiadau rhywiol a throseddau eraill, gweler yma: Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)