Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae eich swyddogion lleol yn ymroddedig i fynd i'r afael â'r broblem. Mae pob adroddiad a wnewch yn ein helpu i gael atebion er mwyn sicrhau newid cadarnhaol yn eich cymuned. Mae pob adroddiad o bwys.
Mae Adrodd i Adfer wedi'i greu ar eich cyfer chi, eich cymuned a'ch diogelwch. Bydd yn eich helpu i ddeall sut i roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, i bwy, a beth sy'n digwydd ar ôl i adroddiad gael ei wneud.
Mae pob adroddiad yn cyfrif.
Os ydych yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymuned leol, rydym am glywed gennych chi. Oherwydd, pan fyddwch yn gwneud adroddiad, mae'n cyfrannu tuag at ddata trosedd a all arwain at atebion cymunedol penodol.
Ymddygiad troseddol a di-droseddol yw ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n achosi aflonyddwch, gofid neu niwed i berson.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar fywydau bob dydd pobl. Mae'n annerbyniol. Dyna pam ei bod yn bwysig gwybod beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol a pham y dylech ei riportio.
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
o Aflonyddu, braw neu ofid i unrhyw berson nad yw o'r un cartref
o Rhywun arall yn teimlo dan fygythiad personol
o Niwsans cyhoeddus neu effaith andwyol ar yr amgylchedd
o Effaith andwyol ar ansawdd bywyd unigolyn neu'r gymuned gyfan
o Cerbydau oddi ar y ffordd
o Fandaliaeth a graffiti
o Diflastod sŵn
o Camddefnyddio tân gwyllt
o Niwsans neu ddefnydd amhriodol o gerbyd
o Tresmasu
o Yfed ar y stryd
o Problemau anifeiliaid
Os yw unrhyw un o'r enghreifftiau hyn yn achosi gofid i chi, gallwch roi gwybod i ni yma.
Ffoniwch 999 os bydd argyfwng.
Cam 1 Adrodd am unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar-lein.
Cam 2: Caiff eich adroddiad ei gofnodi i'w asesu.
Cam 3: Rydym yn ymchwilio i'ch adroddiadau.
Cam 4: Byddwch yn derbyn hysbysiad, yn dibynnu ar y math o adroddiad gallech dderbyn galwad neu e-bost.
Cam 5: Yn dilyn yr ymchwiliad, rydym yn defnyddio'r adroddiadau i adeiladu map cyfoethog o ddata troseddau i arwain ymatebion gan yr heddlu sydd wedi'u targedu.
Ni ellir mynd i'r afael â phob adroddiad ar unwaith, neu mae angen i'r ateb fod yn fwy hirdymor. Po fwyaf y byddwch yn adrodd, y mwyaf y gallwn weithredu a chadw eich cymuned yn ddiogel.
Dilynwch Project Pinpoint
Dysgwch am ein lleoliad Adrodd i Adfer cyntaf isod a darganfyddwch sut rydym yn defnyddio manylion adroddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol i greu newid cadarnhaol i'r gymuned.
Cadwch lygad am ein pin drop nesaf mewn menter gymunedol lwyddiannus arall gaiff ei chynnal ledled de Cymru, er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae ein ceisiadau i Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref wedi bod yn hynod lwyddiannus ac mae’r dyraniad o £1miliwn tuag at fentrau diogelwch cymunedol yn gymeradwyaeth i’r gwaith partneriaeth cryf sydd gennym ni yn ne Cymru.
“Rydym wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i adnabod ffactorau sy’n sbarduno problemau lleol, a’r ffordd orau o fynd i’r afael â nhw ar y cyd.
“Gallwn gyflawni llawer mwy trwy gydweithio a dyna pam ei bod mor bwysig i’r rhai sy’n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol i adrodd y materion hyn fel y gallwn ganolbwyntio ein hymdrechion a’n hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf. Nod Adanbod i Adfer, a ariennir gan Safer Streets, yw i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol a sicrhau bod ein cymunedau’n fwy diogel i bawb.
"I adrodd ymddygiad gwrthgymdeithasol, ewch i’r dudalen benodol ar ein gwefan: Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol"
Dilynwch Adrodd i Adfer ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgwch fwy am sut rydym yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau.