Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diolch i aelodau o'r gymuned yn riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth ddefnyddio e-feiciau ac e-sgwteri ledled Caerdydd, roedden ni'n gallu defnyddio data i nodi mannau problemus a gwneud newidiadau cadarnhaol.
Ar gyfartaledd, rydyn ni'n cael 90 o adroddiadau y mis mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a beiciau a sgwteri sy'n creu niwsans.
Gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid, rydyn ni'n canfod lle mae'r broblem ac yn mynd i'r afael â hi.

Dywedodd Tim Ursell, yr Arolygydd Plismona yn y Gymdogaeth a arweiniodd Ymgyrch Livewire:
"Sefydlwyd yr ymgyrch yn ymateb i bryderon y gymuned ynghylch defnydd anghyfreithlon o e-cerbydau (sgwteri, beiciau a Sur-rons) o fewn ein cymunedau.
"Trwy gydweithio â Chyngor Caerdydd, gallwn dargedu ardaloedd yn rhagweithiol, tynnu'r cerbydau hyn o'r strydoedd a sicrhau eu bod yn cael eu dinistrio a'u hailgylchu'n er mwyn atal eu defnyddio yn y dyfodol.
"Rydym yn parhau i ofyn i bobl riportio y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn inni allu cynllunio a thargedu ardaloedd mewn dyddiau gweithrediad yn y dyfodol."
Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac rydyn ni am dynnu sylw at y ffaith bod riportio bob amser yn cyfrif, a byddwn ni'n gweithredu. Mae Adrodd i Adfer wedi'i greu ar eich cyfer chi, eich cymuned a'ch diogelwch. Bob tro rydych chi'n riportio, mae'n ein helpu i gael atebion er mwyn sicrhau newid cadarnhaol yn eich cymuned. Mae pob adroddiad yn cyfrif.